Bydd dyn o Wrecsam a gollodd ei ddyweddi i ganser bron i ddwy flynedd yn ôl yn westai anrhydeddus yn agoriad siop newydd Ymchwil Canser Cymru yn y ddinas.
Mae Mike Shone, 51, am dorri'r rhuban ar siop Ymchwil Canser Cymru yn 5 Stryd y Priordy am 10:00am er cof am Victoria Davies (Picken gynt) ddydd Sadwrn 11 Mai.
Bydd aelodau teulu Victoria a Mike hefyd yn yr agoriad i gefnogi Ymchwil Canser Cymru.
Newidiodd byd Victoria am byth ar 17 Mawrth 2017 pan, yn 38-mlwydd-oed ac yn fam i ddau o blant, cafodd y newyddion dinistriol fod ganddi ganser peritoneal cynradd Cam 4.
Aeth trwy ddwy rownd o lawdriniaeth fawr er mwyn gwneud diagnosis a thrin ei chanser, ynghyd â chyfanswm o 12 rownd o gemotherapi.
Yn anffodus, bu farw Victoria ar 15 Mehefin 2022 yn ei chartref ym Mhentre Bychan wedi'i hamgylchynu gan anwyliaid ar ôl brwydr bum mlynedd yn erbyn canser.
"Roedd Victoria bob amser yn rhoi eraill o flaen ei hun. Hyd yn oed pan gafodd ddiagnosis o ganser roedd hi'n blaenoriaethu eraill bob tro. Gafaelodd Victoria mewn bywyd a byw cymaint ag y gallai tra'n brwydro canser", meddai Mike.
"Rydyn ni, fel ei theulu, eisiau codi ymwybyddiaeth a helpu'r frwydr yn erbyn canser yn ei henw yn union fel y gwnaeth bopeth y gallai tra roedd hi'n fyw", ychwanegodd.
Dywedodd Lorraine Boyd, Pennaeth Manwerthu Ymchwil Canser Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Mike, ei deulu ef a Victoria am ddod draw i gefnogi agoriad newydd ein siop yn Wrecsam er cof am Victoria ac am eu caredigrwydd a'u dewrder wrth wneud hynny.
"Hoffem ofyn i bobl Wrecsam os gwelwch yn dda ddod i'n cefnogi a helpu ariannu ein gwaith ymchwil sy'n newid bywydau drwy roi eich nwyddau annwyl ymlaen llaw, siopa gyda ni a gwirfoddoli eich amser."