Pam fy mod i'n rhedeg ar gyfer Ymchwil Canser Cymru: Stori Mike
Mae Mike Shone o Wrecsam yn paratoi i redeg Llwybr Goldrush gyda RUN. CYB. Mae'n gwneud hyn er cof am ei ddyweddi diweddar, Victoria Davies (gynt Picken).
Darllenwch ei stori isod a'i gefnogi ar ei daith.

Roedd Victoria Davies (Picken gynt) yn fam ymroddgar i’w meibion Rhaeadr a Rhain, ac roedd wedi dyweddio â Mike.Yn rhedwr brwd, roedd hi'n aelod o grŵp rhedeg Runstrong lle gwnaeth lawer o ffrindiau.
Ond ar 17 Mawrth 2017 newidiodd byd Fictoria am byth pan gafodd y newyddion a fyddai’n newid ei bywyd fod ganddi ganser peritoneal cynradd cam 4.
"Roedd hwn yn ddiagnosis a oedd yn anodd iawn iddi ddod i delerau â fo, ond mi wynebodd hi'r salwch yn gadarnhaol.
"Roedd hi bob amser yn agored am ei salwch ac yn siarad amdano gyda dewrder a gobaith," ychwanegodd Mike.
Cemotherapi a llawdriniaeth
Aeth Victoria trwy ystod o wahanol lawdriniaethau ar gyfer ei chanser, gan wybod na ellid ei gwella.
"Roedd y driniaeth ar gyfer y canser yn gymysgedd o chwe rownd o gemotherapi a llawdriniaeth gan gynnwys hysterectomi llawn. Mi roedd hi’n gwybod yn iawn na fyddai'r driniaeth yn gwella'r canser ond mi fyddai yn ymestyn ei bywyd", meddai Mike.
"Roedd hi'n caru ei bechgyn - Rhaeadr a Rhain yn fwy na dim ac wastad yn rhoi eraill o flaen ei hun. Hyd yn oed pan gafodd ddiagnosis o ganser, roedd hi'n dal i roi eraill yn gyntaf. Rhoddodd ei gwallt i Ymddiriedolaeth y Dywysoges Fach a chododd dros £2,000 i'r elusen," eglurodd.

Mwy o gemotherapi
Yn anffodus, ym mis Ionawr 2021 bu'n rhaid i Victoria gael mwy o driniaeth cemotherapi gan fod y canser wedi dechrau lledaenu eto. "Unwaith eto cafodd chwe rownd o gemotherapi ac roedd hi'n dal i gael triniaeth pan gafodd ein mab Rhain ei eni drwy surrogacy."
Gafaelodd Victoria mewn bywyd a byw cymaint ag y gallai tra'n brwydro canser. Roedd hi eisiau’r gorau i'w theulu, ei ffrindiau a'i hanwyliaid yr oedd hi – dyna’r cwbwl, ac roedd hi ar ei hapusaf pan oedd hi gyda 'Ei bechgyn'", esboniodd Mike.

Brwydr pum mlynedd yn erbyn canser
Yn anffodus, gwaethygodd y salwch yn gynnar yn 2022. "Roedd y canser wedi gwaethygu gymaint fel nad oedd mwy o opsiynau triniaeth ac nid oedd hi'n ddigon cryf i oroesi llawdriniaeth a fyddai wedi cynnig gobaith iddi hi, gan y byddai wedi bod yn driniaeth rhy radical," meddai Mike.
Bu farw Victoria ar 15 Mehefin 2022 yn ei chartref wedi'i hamgylchynu gan anwyliaid ar ôl brwydro am bum mlynedd yn erbyn canser. Mae ei theulu bellach wedi ymroi i frwydro canser er cof am Victoria, fel yr esbonia Mike:
"Rydyn ni fel ei theulu eisiau helpu'r frwydr yn erbyn canser yn ei henw hi yn union fel y gwnaeth hi bopeth o fewn ei gallu i wneud hynny tra roedd hi'n fyw."
