Symud at y prif gynnwys

Pam fy mod i'n rhedeg ar gyfer Ymchwil Canser Cymru: Stori Laura

Rhedodd Laura Grigg Hanner Marathon Caerdydd 2024 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru gan godi bron i £3,000 i gefnogi ein gwaith. Yma rydyn ni'n siarad â Laura am y profiad, sef ei hanner marathon cyntaf- un y’i rhedodd er cof am ei thad a'i thaid ar ôl iddi golli'r ddau i ganser

Ydy stori Laura wedi ei hysbrydoli i redeg i Ymchwil Canser Cymru?

Os felly, edrychwch ar ein hamrywiaeth o ddigwyddiadau rhedeg!

Ein Digwyddiadau

Pam y gwnes di ddewis rhedeg i Ymchwil Canser Cymru yn Hanner Marathon Caerdydd?

Mae canser yn effeithio ar gymaint o bobl ledled y byd ac felly, pan oeddwn yn cofrestru ar gyfer yr Hanner Marathon cefais fy nenu ar unwaith at Ymchwil Canser Cymru. Ar ôl darllen am Ymchwil Canser Cymru a gweld beth mae eu cyllid yn mynd tuag at gefnogi ymchwil a thriniaethau, doedd dim amheuaeth i mi fy mod i'n mynd i fod yn rhedeg ar eu cyfer!

Wyt ti wedi cael profiad o ganser yn dy deulu neu ymysg dy ffrindiau?

Yn anffodus, mae rhai o'r bobl agosaf ataf wedi gorfod brwydro canser ac yn anffodus collodd fy nhaid a fy nhad y frwydr honno. Bu farw fy nhad ddiwedd mis Awst 2024 o frwydr fer iawn gyda chanser y coluddyn a'r afu. Roedd y canser yn un o'r mathau mwyaf ymosodol o ganser, ac yn anffodus doedd ganddo ddim symptomau tan tua mis neu ddau cyn iddo farw.

Wyt ti wedi gwneud rhywbeth fel hyn o'r blaen?

Hwn oedd fy nhrydydd hanner marathon. Doeddwn i erioed wedi rhoi cynnig ar redeg cyn cofrestru ar gyfer yr hanner marathon hwn ond ar ôl cofrestru ar gyfer yr hanner marathon fe wnes i syrthio mewn cariad â rhedeg.

Faint o hyfforddiant oedd rhaid i ti ei wneud?

Byddwn i'n rhedeg tua unwaith neu ddwy yr wythnos. Fel arfer, byddai hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant ysbaid, rhedeg byrrach (5k) neu rediadau hirach (10k-15k). Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am y gampfa felly cadwodd hyn ochr yn ochr â'r rhedeg. Ymgorfforais fwy o ymarferion un goes i leihau fy risg o anaf rhag rhedeg a chanolbwyntio mwy ar waith symudedd, yn enwedig ar gyfer fy nghluniau.

Oedd yr hyfforddiant a'r rhediad yn heriol?

Mae'n rhaid i mi ddweud bod yr awyrgylch ar ddiwrnod yr hanner marathon yn anhygoel ac wedi gwneud y râs gymaint yn haws! Roedd yr adrenalin yn llifo a'r holl sirioli a chefnogaeth yn ddim byd fel yr wyf erioed wedi'i brofi o'r blaen.

Sut y gwnes di ysgogi dy hun?

Roedd yna ddyddiau lle doeddwn i ddim yn teimlo fel mynd i redeg a rhai dyddiau lle doeddwn i ddim yn gallu aros! Roedd dyddiau lle aeth fy sesiynau mor dda ond hefyd ddyddiau lle nad oedden nhw cystal. Fodd bynnag, o wybod fy mod i'n rhedeg am achos mor bwysig a rhedeg i'r bobl agosaf ataf, dyma'r holl ysbrydoliaeth roeddaf ei angen.

Beth oedd cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd yn ei olygu i ti?

Roedd cymryd rhan yn hanner marathon Caerdydd eisoes yn golygu llawer i mi gan mai hwn oedd fy hanner marathon cyntaf erioed ac i aelodau fy nheulu a oedd wedi mynd trwy ganser yn anffodus. Fodd bynnag, roedd hyn yn golygu cymaint mwy ar ôl marwolaeth sydyn fy nhad. Roeddwn i'n gwybod bod fy nhad a fy nhaid gyda mi bob cam o'r ffordd yn fy nghefnogi!

Wyt ti wedi cael llawer o gefnogaeth gan dy ffrindiau a deulu?

Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael mam, brawd a’m cariad yn dod i fyny o Gernyw, ynghyd â fy neiniau a theidiau a rhai o'n ffrindiau teulu agosaf. Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i gael fy ffrindiau a ffrindiau o Fryste yn fy nghefnogi ar hyd. Ni allwn fod wedi gwneud hyn hebddyn nhw!

Beth yw'r gyfrinach i godi arian mor llwyddiannus â ti?

Mae'r swm o arian sydd wedi cael ei godi yn anhygoel ond y cyfan y gallaf ei ddweud yw bod hyn oherwydd calonnau caredig ein ffrindiau a'n teulu. Ni fyddai faint o arian a godwyd wedi bod yn bosibl oni bai am haelioni pobl ac rwy'n diolch i bawb a gyfrannodd.

Da iawn, Laura – rydyn ni i gyd yn falch iawn ohonot ti.