Symud at y prif gynnwys

Pam fy mod i'n mwynhau gwirfoddoli i Ymchwil Canser Cymru: Stori Mia

Mae Mia yn byw yng Nghaerdydd ac wedi bod yn gwirfoddoli yn siop Ymchwil Canser Cymru ym Mhenarth ers bron i flwyddyn. Mae hi'n mwynhau'r awyrgylch yno ac yn dweud mai siop yw ei chymuned ei hun

Gwelais fod Ymchwil Canser Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr ar ôl i mi fynd ar y wefan a chefais y manylion cyswllt ar gyfer y siop. Des i mewn a chwrdd â Vikki Cornish, sef y rheolwr yma. Roedd hynny bron i flwyddyn yn ôl a dwi'n gwirfoddoli un diwrnod yr wythnos a dwi'n ei fwynhau a dwi'n mwynhau'r bobl a'r gymuned sydd gyda ni yn y siop. Mae'r awyrgylch yn y siop yn braf iawn.

Dywed Mia ei bod yn canfod bod cwsmeriaid yn aml yn siarad am eu profiadau gyda chanser a bod ei chlust wrando frwd yn ei gwasanaethu'n dda yn ei rôl.

Mae pobl sy'n dod i'r siop yn aml yn siarad am eu profiadau gyda chanser ac rwy'n teimlo'n freintiedig eu bod yn teimlo'n ddigon cyfforddus i fod yn agored am eu taith canser ac mae'n gallu bod yn emosiynol, ond mae'n werth chweil. Dwi'n hoffi helpu pobl ac ar hyn o bryd dwi'n gwneud cwrs cwnsela yn y coleg yng Nghaerdydd a Choleg y Fro a dwi wedi ffeindio bod effaith bod yn glust i wrando ar rywun yn bwerus iawn - weithiau dyna'r cyfan mae pobl ei angen - rhywun i wrando arnyn nhw. 

Penderfynais wneud y cwrs cwnsela ychydig yn ôl ar ôl gweld pobl sy'n agos ataf - gan gynnwys aelodau o'r teulu yn cael trafferth siarad am bethau fel canser a dyna pryd sylweddolais fod mwy iddo [canser] bob amser na'r salwch corfforol yn unig. Roedd gan fy modryb ganser y fron ddwywaith ac fe wellodd hi ohono a oedd yn anhygoel ac fe gafodd effaith fawr arna i. Mae hi'n berson ysbrydoledig iawn ac fe wnaethom gysylltu dros ein cariad cyffredin at gelf."

Dywed Mia ei bod yn mwynhau cwmni'r bobl sy'n gweithio yn y siop, yn gwirfoddoli ac yn ymweld â'r siop a'i bod yn gymuned agos a chefnogol iawn. Mae'r caredigrwydd a wêl yn siop Ymchwil Canser Cymru wedi gwneud argraff barhaol arni.

Rwyf wedi dysgu o wirfoddoli yn siop Ymchwil Canser Cymru ym Mhenarth fy mod yn hoffi bod o gwmpas pobl ac mae cysylltiad dynol mor bwysig ac rwy'n cael hynny o'r siop. Rwyf wedi dysgu fy mod hefyd yn mwynhau bod yn ddefnyddiol a gwneud cyfraniad. Mae tîm braf yn y siop ac rydym i gyd yn cefnogi ac yn helpu ein gilydd gyda phethau bob dydd a chefnogaeth emosiynol pan fydd ei angen arnom. Mae'n braf cael sgwrs dda a rhoi'r byd yn iawn pan fyddwch chi'n stemio dillad yn yr ystafell stoc. 

Dwi'n cael lot o foddhad o wirfoddoli yn y siop - mae'n gymuned, dwi'n cysylltu gyda'r cwsmeriaid ac mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen bwysig ac mae hynny'n fy ysbrydoli i a dwi'n gweld lot o garedigrwydd yn y siop hefyd. Mae pobl yn dod i'r siop gyda nwyddau maen nhw eisiau eu rhoi i gefnogi'r elusen ac yn cofrestru ar gyfer Gift Aid ac rwy'n teimlo fy mod i, drwy fod yn y siop, yn rhan o gymuned sy'n cyfrannu yn hael. Dyna'r peth sydd wedi cael yr effaith fwyaf arna i - y cwsmeriaid a pha mor garedig ydyn nhw ac yn fodlon rhoi cymaint i Ymchwil Canser Cymru."

Rhowch eich amser fel gwirfoddolwr i Ymchwil Canser Cymru a helpu i uno Cymru yn erbyn canser. Mae eich cefnogaeth yn golygu ein bod yn gallu parhau i ariannu ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion ledled Cymru.