Symud at y prif gynnwys

Fan-digedig: fan Ymchwil Canser Cymru yn edrych yn bictiwr yn ei streips

Mae ein fan Peugeot fach annwyl wedi cael ei weddnewidiad, ei injan wedi ei ail-adeiladu ac mae'n ôl ar y ffyrdd i gasglu eich rhoddion i'n siopau - mae wedi'i lapio yn y brandio stribed pinc, gwyn, glas a melyn Ymchwil Canser Cymru

Mae brandio streipiog Ymchwil Canser Cymru wedi'i ysbrydoli gan y geliau dilyniannu DNA y mae gwyddonwyr yn eu defnyddio i benderfynu ble mae camgymeriadau genetig wedi digwydd.

Mae'r geliau DNA yn cael eu lliwio'n artiffisial mewn labordai fel y gellir eu dehongli'n haws ac mae'r palet lliw yr ydym wedi'i ddefnyddio yn ein brandio yn deillio o'r lliwiau hynny.

Rydym yn ddiolchgar iawn i'r gŵr talentog Jay Hart o Outrageous Signs ym Mhont-y-pŵl am ddylunio'r lapio a'i gymhwyso i'r fan i ni.

Diolch hefyd i'r staff caredig ym Mysys Casnewydd am storio'r cerbyd tra bod Jay yn gweithio arno yn ogystal â chyflawni'r dasg o wasanaethu ac ailadeiladu'r injan.

'Mae'r fan yn bwysig iawn i ni'

Dywedodd Lorraine Boyd, Pennaeth Manwerthu Ymchwil Canser Cymru: "Diolch i Jay o Outrageous Signs a Lee a Mark a phawb ym Mysys Casnewydd am gymryd gofal mor dda o'n fan fach a’I chael i edrych a gyrru'n well nag erioed.

"Mae'r fan yn bwysig iawn i ni gan ein bod yn ei defnyddio i gasglu nwyddau a roddwyd I ni gan y cyhoedd i‘w gwerthu yn ein siopau i helpu i ariannu ymchwil Ymchwil Canser Cymru sydd yn achub bywyd yma yng Nghymru.

"Rydym hefyd yn defnyddio'r fan ar gyfer ein caffis gwyddoniaeth poblogaidd lle rydym yn gwahodd y cyhoedd i fynd ar daith o amgylch ein coluddyn chwyddadwy, cwrdd â rhai o'n hymchwilwyr a dysgu am yr ymchwil yr ydym yn ei ariannu."

Gwyliwch allan amdano ar y ffyrdd yr haf hwn!