Nod Treial yw Gwella Diagnosis Canser Cynnar mewn Gofal Sylfaenol
Bydd treial clinigol uchelgeisiol, newydd, wedi’i ariannu gan Ymchwil Canser Cymru, ar y cyd â North West Cancer Research, yn dechrau ar draws Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, gyda’r nod o drawsnewid practisau gofal sylfaenol yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer gwneud diagnosis o ganser. Bydd treial ThinkCancer! yn profi ymyrraeth hyfforddiant ac ymwybyddiaeth arloesol a fydd yn newid y ffyrdd y mae meddygon teulu yn meddwl am ganser ac yn gwella prosesau i sicrhau bod mwy o fywydau’n gallu cael eu harbed trwy ddiagnosis cynt o ganser.
Mae Cymru ymhlith y gwledydd gwaethaf eu perfformiad yn Ewrop o ran deilliannau canser, sy’n cyfateb i golli cannoedd o fywydau ychwanegol bob blwyddyn. Yr hyn sy’n allweddol i fynd i’r afael â’r sefyllfa bryderus hon yw gwella’r diagnosis cynnar o ganser, gan ei fod yn gwbl hysbys fod canser yn haws ei drin, ei reoli a’i iachau, y cynharaf y mae’n cael ei ddarganfod. Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym ni’n buddsoddi arian sylweddol mewn ymchwilio i ddulliau newydd o wneud diagnosis o ganser, gan gynnwys nifer o brofion gwaed gwahanol sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i gleifion.
Fodd bynnag, nid yw gwella’r diagnosis o ganser yn ymwneud â datblygu profion a chyfarpar newydd yn unig – mae sicrhau bod cleifion yn gallu cael at y profion hyn yn amserol yr un mor bwysig. Bydd dros 60% o gleifion canser yn ymweld â’u meddyg teulu yn y lle cyntaf, gan olygu bod gan ofal sylfaenol ran hanfodol, ond anodd yn aml, i’w chwarae wrth amau canser ymhlith y symptomau cyffredin sy’n cyflwyno’u hunain ar gyfer y cyflyrau llai difrifol, mwy cyffredin. Ynghyd â her cael y profion cywir i’r cleifion cywir ar yr adeg gywir.
Yn flaenorol, ariannodd Ymchwil Caner Cymru astudiaeth dan arweiniad yr Athro Clare Wilkinson o Ganolfan Canolfan Ymchwil Sylfaenol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, a wnaeth fwrw golwg ar wybodaeth, agweddau ac ymddygiad atgyfeirio meddygon teulu ynghylch amheuon o ganser, ynghyd â phrosesau rhwyd diogelwch mewn meddygfeydd.
Darparodd yr astudiaeth, o’r enw WICKED (Ymyriadau a Gwybodaeth am Ganser Cymru ar gyfer Diagnosis Cynnar), rai cipolygon pwysig i’r anawsterau sy’n wynebu meddygon teulu yn achos canser. Er bod gofal sylfaenol yn gwneud gwaith cymharol dda o ran amau canser ac atgyfeirio achosion tybiedig o rai canserau cyffredin - fel y dangosodd y Prosiect Meincnodi Canser Rhyngwladol - darganfu’r astudiaeth gychwynnol rai tueddiadau pryderus, gyda lle i wella yn sicr, i sicrhau bod gofal sylfaenol drwyddi draw yn dilyn arfer gorau, gyda phrosesau a ffyrdd mwy effeithlon o weithio i sicrhau mwy o gysondeb a thegwch gofal ar draws Cymru.
Daw hyn yn bwysicach fyth wrth i ofal sylfaenol ddod o dan bwysau cynyddol am amrywiaeth o resymau, nid y lleiaf problemau’r gweithlu a mynediad at ddiagnosteg. Mae’r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos mai’r rhanbarthau sydd â’r lefel uchaf o ddifreintedd sydd â’r baich canser mwyaf yng Nghymru sydd â’r nifer lleiaf o feddygon teulu, nyrsys practis a staff gweinyddol fesul pen y boblogaeth o gymharu â gweddill Cymru. Felly, mae’n hanfodol bod ffyrdd trefnus, gwydn a chadarn o weithio yn cael eu mabwysiadu, nid yn unig yn yr ardaloedd hyn, ond ledled Cymru.
Yn nodedig, roedd amrywiaeth fawr yn y defnydd o ganllawiau NG12 NICE ac yn hyder meddygon teulu i adnabod gwahanol symptomau a gweithredu arnynt, gyda llawer yn dweud nad oeddent yn teimlo’n hyderus yn delio â symptomau amwys fel y’u gelwir (fel colli pwysau heb esboniad neu flinder). Cyflwynwyd canllawiau NG12 yn 2015 ac roeddent yn cynnwys rhestr estynedig helaeth o symptomau newydd a’u patrymau cyflwyno y dylai meddygon teulu eu hystyried ar gyfer mathau niferus o ganser. Mae’r darganfyddiad nad yw pob meddyg teulu yn defnyddio’r rhain ond, yn hytrach, yn dibynnu ar brofiad a ‘greddf’, yn bryderus. Mae’r ffaith mai dim ond 1 o bob 3 o’r meddygon teulu a holwyd a ddywedodd eu bod yn defnyddio adnoddau ategu penderfyniadau sydd ar gael i lywio’u gweithredoedd yn dwysau hyn ymhellach.
Ar sail eu canfyddiadau, gweithiodd y tîm wrth wraidd astudiaeth WICKED gyda gofal sylfaenol i gyd-gynhyrchu ymyrraeth i geisio mynd i’r afael â rhai o’r problemau a ddarganfuont, wedi’i theilwra’n benodol i’r meysydd lle’r oedd meddygon teulu o’r farn bod angen cymorth arnynt.
Yr Athro Clare Wilkinson, Prif Ymchwilydd
“Mae meddygfeydd yn y Deyrnas Unedig eisoes yn dda am sylwi ar symptomau ac arwyddion canser, ond o ystyried yr amrywiaeth a ddarganfuom, rydym ni’n gobeithio gall y gwaith hwn gyfrannu at godi pawb i’r safonau uchaf. Dyma’r treial cyntaf i ganolbwyntio ar dîm cyfan y practis, gan anelu at agyfeiriadau cyflym a chywir gyda rhwydi diogelwch ychwanegol i osgoi camgymeriadau.”
Roedd yr ymyrraeth, o’r enw ThinkCancer!, yn cynnwys cyfres o weithdai a wnaeth, gyda’i gilydd, ddarparu arweiniad a hyfforddiant ymwybyddiaeth canser, ynghyd â chymorth â sefydlu gweithdrefnau ‘rhwydi diogelwch’ i atal cleifion â symptomau amwys rhag “disgyn drwy’r bylchau”. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o ymyriadau gofal sylfaenol, fe wnaeth ThinkCancer! gynnwys staff cyfan pob practis, fel staff gweinyddol a nyrsio a rheolwyr practis ynghyd â staff derbynfa, yn hytrach na’r meddygon teulu yn unig, i hyrwyddo dull cyfannol. Croesawyd y cam hwn gan feddygon teulu wrth iddynt geisio meithrin polisi drws agored, lle’r oedd staff yn teimlo’n hyderus i godi pryderon am gleifion â symptomau pryderus sy’n gwneud ymholiadau cychwynnol gyda’r feddygfa.
Fel rhan o’u gwaith, cynhaliodd y tîm dreial hyfywedd ar hap o ymyrraeth ThinkCancer! gydag 19 practis ar draws Cymru i asesu ymarferoldeb eu syniadau ac i bwyso a mesur ymatebion y rhai a gymerodd ran. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn am y gweithdai a gweithredoedd nifer o bractisau’r cynlluniau rhwyd diogelwch a luniwyd yn ystod y sesiynau ar unwaith. Roedd y tîm yn gallu addasu’n llwyddiannus i bandemig Covid-19 trwy ddefnyddio adnoddau ar-lein.
Yn dilyn y gwaith cychwynnol llwyddiannus hwn, mae Ymchwil Canser Cymru, ar y cyd â North West Cancer Research, nawr yn ariannu’r tîm i brofi ThinkCancer! mewn treial clinigol Cam III ar raddfa fawr, a fydd yn darparu tystiolaeth bendant am effeithiolrwydd yr ymyrraeth. Bydd y treial yn cynnwys cyflwyno’r gweithdai i bractisau ar draws Cymru a gogledd-orllewin Lloegr – bydd y practisau hyn yn cael eu cymharu â phractisau na dderbyniodd yr hyfforddiant. Bydd llwyddiant ThinkCancer! yn cael ei fesur trwy ddefnyddio metrigau allweddol, fel yr amser mae’n cael ei gymryd i gleifion gael eu hatgyfeirio i ofal eilaidd, gwell gwybodaeth glinigol am symptomau canser posibl trwy hyfforddiant parhaus ac ymwybyddiaeth o bynciau llosg wrth iddynt ddod i’r amlwg, cywirdeb atgyfeiriadau ac effaith gwell prosesau rhwydi diogelwch, ymhlith eraill.
Fe wnaeth canfyddiadau astudiaeth WICKED ynghylch ymddygiadau ac agweddau meddygon teulu o ran canser gyfrannu at gyfres o argymhellion am ofal sylfaenol a wnaed i Grŵp Trawsbleidiol Llywodraeth Cymru ar Ganser yn 2020. Y gobaith yw y bydd treial clinigol ThinkCancer! yn yr un modd yn gallu darparu tystiolaeth gadarn o’i effeithiolrwydd wrth wella diagnosis canser mewn gofal sylfaenol, a all annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r rhaglen yn genedlaethol er budd yr holl gleifion canser ar draws Cymru.