Symud at y prif gynnwys

Haf o Ddigwyddiadau: Ymchwil Canser Cymru

Yr haf hwn, mae Ymchwil Canser Cymru yn falch iawn o fod yn mynychu rhai gwyliau mawr ledled y wlad i gysylltu â chymunedau o bob cwr o Gymru. Mae ein hymchwil arloesol wedi bod yn achub bywydau, yma ers 1966 ac rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chiwr

Gŵyl Everywoman 2024 – 15 Mehefin 2024

Dewch i gwrdd â'r tîm yng Ngŵyl Everywoman yng Nghaerdydd a mynd am dro drwy ein coluddyn chwyddadwy enfawr am brofiad bythgofiadwy ac addysgol! Mae ein harddangosfa unigryw wedi'i chynllunio i godi ymwybyddiaeth am ganser y coluddyn, gan gynnig ffordd ddeniadol i ymwelwyr ddysgu am bwysigrwydd canfod ac atal yn gynnar.

Sioe Frenhinol Cymru – 22 i 25 Gorffennaf 2024

Byddwn yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru eleni yn Llanfair-ym-Muallt - cyfle anhygoel i godi ymwybyddiaeth o'n cenhadaeth i uno Cymru yn erbyn canser. Dewch i sgwrsio â'n tîm cyfeillgar o staff a gwirfoddolwyr, dysgu mwy am Ymchwil Canser Cymru a darganfod sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith. 

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein digwyddiadau codi arian, ein cylchlythyr a chasglu llyfryn gwybodaeth. P'un a ydych chi'n chwilfrydig am y diweddaraf mewn datblygiadau ymchwil neu'n chwilio am ffyrdd i'n cefnogi - mae hwn yn ddigwyddiad na ddylid ei golli!

Eisteddfod Genedlaethol Cymru – 3 i 10 Awst

Byddwn hefyd yn yr Eisteddfod eleni ym Mharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd am saith diwrnod llawn un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop – dewch draw i'n stondin, dysgwch fwy am ein helusen a'n hymchwil o'r radd flaenaf gan gynnwys Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd cyntaf erioed Cymru, cwrdd a sgwrsio â'n staff cyfeillgar a'n gwirfoddolwyr a chymryd rhan yn ein her ddirgel.

Mae'r Eisteddfod yn ddathliad eiconig o ddiwylliant a threftadaeth Cymru, ac fel elusen Gymreig 100% rydym yn falch o chwarae ein rhan ynddi. Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ein hymdrechion i frwydro yn erbyn canser a sut y gallwch ein cefnogi, oherwydd mae cydweithio yn ein DNA.