Ymgorffori ymchwil, arloesi a thechnoleg i wasanaethau canser Cymru
Mae’n amlwg o adroddiad Heddiw fod y meysydd sy'n dargedau pennaf ar gyfer arloesi yn cynnwys: gwell profion diagnostig a all ganfod canser yn gywir a lleihau ymchwiliadau diangen; offer sgrinio cywir a chost-effeithiol i wella diagnosis cynnar; gwella a gwneud y gorau o lwybrau triniaeth canser i leihau rhestrau aros a sicrhau bod cleifion yn cael y gofal cywir mewn modd amserol.
Yn anffodus, mae Cymru wedi bod yn araf i fabwysiadu'r arfer gorau diweddaraf mewn sgrinio canser, sy'n golygu bod cyfleoedd yn cael eu colli i achub bywydau. Enghraifft wych yw'r rhaglen Archwiliad Iechyd yr Ysgyfaint, sydd wedi cael peilot llwyddiannus yng Nghymru ac sydd wedi'i chyflwyno mewn rhannau eraill o'r DU ond nad yw eto ar waith ledled Cymru.
Dangosodd y ffigyrau diweddaraf fod dros 110,000 o bobl ledled Cymru yn aros am brawf diagnostig. Roedd y rhestr aros colonosgopi yn unig yn gyfrifol am bron i 10,000 o'r rheini, gyda adroddiad heddiw yn nodi mai dim ond 21% o bobl sy'n derbyn colonosgopi o fewn pedair wythnos, yn gymharu a tharged penodol o 90%.
Yn anffodus, mae'r anallu i ddarparu profion diagnostig safon aur yn gyflym ar gyfer amheuaeth o ganser y coluddyn yn tanseilio'r un canfyddiad cadarnhaol yn yr adroddiad - sef, bod targedau ar gyfer cyfraddau sgrinio canser y coluddyn yn cael eu cyrraedd. Ar y gwaethaf, bydd yr oedi hwn yn gweld cleifion yn cael diagnosis pan mae’r salwch yn fwy datblygedig, gan wneud eu canser yn anoddach ei drin, ei reoli a'i wella.
Mae'r defnydd o ddulliau deallusrwydd artiffisial (AI) mewn gofal iechyd wedi ennyn diddordeb enfawr ac mae ganddo'r potensial i fod yn drawsnewidiol mewn sawl lleoliad. Ar hyn o bryd mae Ymchwil Canser Cymru yn ariannu gwaith i ddatblygu'r dechnoleg hon i'w defnyddio mewn canfod canser y coluddyn, a mae modd i sawl math arall o ganser cyffredin elwa o blatfformau AI tebyg. Mae cofleidio'r dulliau newydd pwerus hyn yn addo gwobrau sylweddol ar gyfer taith y claf.
Mae profi cleifion mewn modd anfewnwthiol, trwy 'fiopsïau hylif', fel y'u gelwir, hefyd wedi arwain at gamau mawr ymlaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Prawf Gwaed Raman a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru - prawf diagnostig ar sail AI, yn cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys canfod canser y coluddyn yn gynnar gyda chanlyniadau profion cynt a llai o weithdrefnau dilynol diangen. Mae gan y prawf hwn y potensial i wella canlyniadau cleifion ac i arbed adnoddau gwerthfawr y GIG - sefyllfa wirioneddol galonogol.