Symud at y prif gynnwys

Pwysigrwydd treialon clinigol: Stori Bryan

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol 2024, rydym ni’n amlygu stori Bryan Webber – enghraifft gadarnhaol, uniongyrchol o dreialon clinigol rydym ni’n eu hariannu yn Ymchwil Canser Cymru

Ar ôl gweithio yn y GIG ers dros 50 mlynedd a gyrfa hir fel deintydd ym Mhort Talbot, roedd Bryan wedi gweld arwyddion rhybudd canser y geg lawer tro.

Ar 3 Rhagfyr 2019, sylwodd ar ei donsil llidus yn y drych a thynnu llun ohono. Drannoeth, cafodd atgyfeiriad gan ei feddyg teulu. Ar 17 ac 18 Rhagfyr, cafodd sganiau CT ac MRI o’i organau a’i gorff cyfan.

Ar 10 Ionawr 2020, cafodd Bryan ganlyniad y profion a diagnosis o HPV 16 – carsinoma y tonsil (y pen a’r gwddf).

Cynigiwyd iddo gymryd rhan yn nhreial clinigol PEARL, a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru ac yn cael ei arwain gan yr Athro Mererid Evans yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Mae PEARL yn archwilio’r defnydd o sganiau PET-CT i wella cynllunio radiotherapi a lleihau’r sgîl-effeithiau i gleifion canser oroffaryngol.

Esbonia Bryan: “[Gyda PEARL] maen nhw’n saethu’r tiwmor ag ymbelydredd ac yn gwneud hynny dro ar ôl tro, ond gan daro’r tiwmor yn unig gyda’r pelydr. Felly, nid yw’r ymbelydredd gwenwynig hwn yn taro unman arall. Synnwyr cyffredin yw hynny. Cefais wybod y gallwn i, gyda dim ond un sgan PET, gael cyfle llawer gwell o oroesi hyn. Fe welais i’r sganiau; gallwch weld yn llythrennol y tiwmor yn tyfu yn fy ngwddf.”

Canu’r gloch

Dechreuodd Bryan radiotherapi a chemotherapi ar 3 Chwefror 2020 ac, ychydig dros fis yn ddiweddarach, ‘canodd y gloch’ ar ei driniaeth ddydd Gwener, 13 Mawrth 2020. “Roedd hi’n ddiwrnod lwcus i mi, oherwydd yr wythnos ganlynol, dechreuodd y cyfnod clo!”

Diolch i dreial clinigol PEARL, roedd yr adferiad yn gynt nag y byddai wedi bod, fel arall. Nod y treial yw lleihau sgîl-effeithiau triniaeth draddodiadol, ac, yn achos Bryan, daeth hyn yn wir.

“Pan gefais wybod y byddai’n gynt, fe wnes i ddim oedi am eiliad. Rhybuddiodd fy merch i y byddai’n gas, ac fe oedd, ond gallwn ni ond cymryd yn ganiataol ei fod yn llai nag y byddai wedi bod gyda’r driniaeth arferol”, meddai Bryan.

Pwysigrwydd treialon clinigol


Ac yntau’n ddeintydd wedi ymddeol, mae Bryan wedi gweld yn uniongyrchol sut arferai canserau’r geg gael eu trin gyda thriniaethau cyffredinol a chanlyniadau trychinebus hynny yn aml: “Gwelais i rywun flynyddoedd yn ôl fel deintydd ym Mhort Talbot a oedd wedi dod ata’ i gyda phroblem roedd wedi’i chael gyda’i wddf, ac roedd wedi ceisio dro ar ôl tro i gael apwyntiad gyda’i feddyg teulu, ac chael gwrthfiotigau ar bresgripsiwn yn unig. Bu farw dair wythnos yn ddiweddarach o ganser y gwddf.”

Mae Bryan nawr yn lladmerydd dros bwysigrwydd treialon clinigol ac mae’n ceisio addysgu cydweithwyr proffesiynol meddygol am bwysigrwydd diagnosis cynnar: “Ym maes meddygaeth, mae’n rhaid i bethau symud ymlaen, ac ar draws y gwasanaeth iechyd rydym wedi symud ymlaen – heb dreialon clinigol, byddem ni o hyd yn gwneud yr un peth rydym wedi bod yn ei wneud am y deugain mlynedd diwethaf! Mae’n rhaid i ni roi cynnig ar ffyrdd newydd o driniaeth.”

I ddysgu rhagor am PEARL a’r prosiectau rydym ni’n eu hariannu, cliciwch yma.