Symud at y prif gynnwys

Nicole Quirk yw rheolwr codi arian newydd ar gyfer Gogledd Cymru Ymchwil Canser Cymru

Mae Nicole Quirk wedi cael ei phenodi’n rheolwr codi arian Ymchwil Canser Cymru ar gyfer Gogledd Cymru

Yn ei rôl newydd, mae Nicole yn gyfrifol am helpu sefydliadau lleol fel busnesau, ysgolion, clybiau chwaraeon ac unigolion i gefnogi Ymchwil Canser Cymru drwy godi arian.

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Nicole:

"Fel gyda'r rhan fwyaf o bobl yn anffodus, rwyf wedi adnabod ffrindiau a theulu sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser. Fy mhrif resymau dros ymuno ag Ymchwil Canser Cymru yw gweithio i elusen sy'n rhan o'm cymuned leol ac sy'n rhoi rhywbeth yn ôl iddi."

Mae Nicole yn godwr arian profiadol sydd wedi gweithio yn flaenorol i elusennau gan gynnwys Sefydliad Prydeinig y Galon ac mae ei golygon ar godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o Ymchwil Canser Cymru fel yr eglurodd:

"Rwyf am roi hwb i broffil Ymchwil Canser Cymru yng Ngogledd Cymru gan nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol ein bod yn elusen Gymreig annibynnol nad yw'n gysylltiedig ag unrhyw elusennau canser eraill.

Mae Ymchwil Canser Cymru hefyd yn buddsoddi ei holl gyllid ymchwil yma yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae'n ariannu £1.8 miliwn o brosiectau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. Fe wnaethon ni agor tair siop yng Ngogledd Cymru - ym Mangor, Llandudno a Wrecsam y llynedd ac rydyn ni'n agor pedwerydd un yng Nghaernarfon ar 15 Mawrth, felly mae'n amser cyffrous i fod yn ymuno â'r elusen."

Bydd gwaith Nicole yn ei gweld yn teithio ar draws Gogledd Cymru, ond fel arfer mae hi yn gweithio o siop Ymchwil Canser Cymru yn 5 Stryd y Priordy yn Wrecsam.

"Mae gennym ddigwyddiadau gwych yng Ngogledd Cymru y gall pobl leol gymryd rhan ynddynt, fel y Black Diamond Yr Wyddfa | Snowdon 24 2025 sydd yn râs ddygnwch a 10K Wrecsam, ond does dim rhaid i chi fod yn rhedwr i gymryd rhan gydag Ymchwil Canser Cymru - mae llawer o ffyrdd eraill o gefnogi ein gwaith", meddai Nicole.

"Rwyf bob amser yn hapus i gwrdd â chefnogwyr yn unrhyw un o'n siopau yng Ngogledd Cymru, felly os ydych chi'n berson busnes lleol neu'n unigolyn ac eisiau cwrdd i drafod syniadau codi arian, cysylltwch â mi ar fy nghyfeiriad e-bost - Nicole.quirk@cancerresearchwales.org.uk"

Yn ei hamser hamdden, mae Nicole yn hoffi mynd i heicio a gwersylla ar draws Cymru gyda'i dau dachshund - Milo a Chunk.