Symud at y prif gynnwys

Fy nhaith i fyny ac i lawr gyda chanser: Stori Ruth

Profiad cythryblus a chyfres o emosiynau eithafol – arswyd, ofn, penderfyniad, positifrwydd a diolchgarwch. Dyma sut mae Ruth Jenkins yn disgrifio ei thaith ganser. 

Mae Ruth yn 69 oed actif iawn a bu’n athrawes cyn ymddeol. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i phartner Phil, sy’n 74 oed. Mae hi wrth ei bodd yn gwirfoddoli yn siop Ymchwil Canser Cymru yn Rhiwbeina ac mae’n disgrifio ei hun fel goroeswr bywiog, ffit ac iach.

Gwirfoddoli

Y staff cyfeillgar, y glendid a’r awyrgylch hamddenol a wnaeth i mi benderfynu ymwneud ag Ymchwil Canser Cymru yn y lle cyntaf. Pan awgrymodd y rheolwr y dylwn i wirfoddoli, fe achubes i ar y cyfle, yn enwedig gan fod fy mrawd yng nghyfraith wedi dweud wrtha i unwaith fy mod i’n werthwr naturiol.

Y peth gwirioneddol ryfeddol am fy stori yw’r ffaith y des i i wybod fy nghanser tra oeddwn i’n gwirfoddoli yn y siop. Roeddwn i’n gwisgo top ioga i weld ac fe sylwes i ar rywbeth anarferol yn fy nheth. Roedd hynny’n cael ei achosi gan fàs yn ddwfn yn y fron. Pan fydd pobl yn dweud ‘torrodd y tir o dan fy nhraed’, maen nhw o ddifrif! Roeddwn i’n ofni’r gwaethaf ac yn llygad fy lle!

Canser

Fe weles i fy meddyg ac yna ymgynghorydd mewn chwinciad a heb oedi. Yn dilyn fy archwiliad, cadarnhawyd fy ofnau. Dangosodd biopsi fod y newyddion yn waeth na’r disgwyl. Roedd y canser yn HER2-gadarnhaol ac ar Gam 3. Byddai angen i mi gael chwe rownd o gemotherapi FEC-T ac yna mastectomi.

Dywedwyd wrtha i y byddwn yn colli fy ngwallt yn sicr, a dyna oedd y newyddion mwyaf poenus ges i. Dechreuodd y cemotherapi ym mis Awst, parhaodd Herceptin bob tair wythnos am 18 pigiad. Yn olaf, fe ges i gwrs o chwe Zometa. Dyna oedd rhan waethaf fy nhriniaeth. Yna, roedd y cyfan y tu ôl i mi ac yn llwyddiannus iawn.

Cefnogaeth

Roedd fy anwyliaid a’m ffrindiau’n ffynhonnell amhrisiadwy o nerth drwy gydol fy nhriniaeth. Rydw i a’m ffrindiau’n galw ein hunain yn Bedair Mysgedwr – Sue, Alison, Annie a fi. Roedd y diwrnodau triniaeth yn Felindre yn hir ac yn flinedig. Ffurfiodd y tair ffrind rota ac roedden nhw i gyd gyda mi ar ryw adeg yn ystod pob sesiwn gemotherapi yn Felindre. Does dim byd yn rhwystro cyfeillgarwch go iawn.

Gartref, fy mhartner Phil oedd fy ‘Nghraig’. Fe anogodd a chefnogodd fi bob cam o’r ffordd, ac rwy’n sylweddoli nawr y bu hynny’n dipyn o straen arno. Pan fyddwch chi’n ceisio ymdopi â’r driniaeth a’i sgil-effeithiau anochel, rydych chi’n tueddu i anghofio ei bod yn cael effaith fawr ar bobl eraill a’u bod nhw’n aml yn dioddef yn dawel.

Rhoi’r newyddion

Rhywun arall a ddioddefodd y trawma yma oedd fy mab – Aled, sy’n byw yn Llundain. Bu’n rhaid i mi ei ffonio i roi’r newyddion am fy nghanser, a dyna oedd yr alwad ffôn anoddaf rydw i erioed wedi’i gwneud a’r un yr oeddwn i’n ei hofni fwyaf.

Roedd Aled wedi’i lorio’n llwyr i ddechrau, ond, yn ôl ei arfer, fe drodd rywbeth negyddol yn rhywbeth positif. Ffurfiodd grŵp WhatsApp Criw Cae Mawr – wedi’i enwi ar ôl ein stryd, ar gyfer y tri ohonon ni, lle y gallen ni rannu ein teimladau, ein hofnau ac, wrth gwrs, ein llwyddiannau. Phil ac Aled oedd fy ‘Nghreigiau’.

Profiad swrrealaidd

Fe ofynnes i i Phil sut oedd yn teimlo ynglŷn â’m cefnogi drwy fy nhaith ganser. Fe ddywedodd wrtha i ei fod yn brofiad swrrealaidd i weld eich partner a oedd yn ffit ac yn iach, yn ôl pob golwg, yn cael diagnosis o ganser Cam 3. Dywedodd yr oedd bron fel petai’n eistedd ar gwmwl yn edrych ar rywbeth afreal. Ond, mae’n digwydd mewn gwirionedd i’r person sydd agosaf i chi ac allwch chi ddim ei atal oherwydd ei fod allan o’ch rheolaeth yn llwyr.

Ychwanegodd Phil ei bod yn anodd gwybod beth i’w ddweud wrth eich partner ar ôl iddi newydd gael diagnosis o ganser Cam 3. Roedd mor anodd iddo. Roedd y driniaeth yn ofnadwy ond fe frwydron ni drwodd a dyma ni’n gwenu unwaith eto.

Mae bywyd yn werthfawr

Mae canser wedi cael effaith fawr arna’ i. Mae’n brofiad na allwch chi ei anghofio, ond un rydych chi’n dysgu ohono. Mae’n sicr wedi fy ngwneud i’n fwy diolchgar ac wedi gwneud i mi werthfawrogi bywyd o safbwynt gwahanol. Mae bywyd mor werthfawr ac, yn ffodus, rydw i wedi gallu cefnogi sawl person arall sy’n mynd trwy’r un profiad.

Trwy wirfoddoli gydag Ymchwil Canser Cymru, rydw i wedi cyfarfod â chyd-oroeswyr. Rydyn ni’n rhannu straeon, yn cydymdeimlo, yn uniaethu, yn chwerthin, ac yn deall a chofleidio ein gilydd.

Mae ymchwil yn allweddol

Mae Ymchwil Canser Cymru yn amhrisiadwy. Mae ymchwil yn hanfodol. Mae angen i ni gael triniaethau gwell, mae angen i ni gael mwy o driniaethau. Trwy wirfoddoli, rydw i’n teimlo fy mod i’n rhoi ychydig bach yn ôl. Rydw i’n dangos diolchgarwch i’r elusen wych yma sydd wedi cyflawni cymaint ac a fydd yn parhau i wneud hynny gyda’n cefnogaeth ni.

Diolch i Ymchwil Canser Cymru gan deulu gwerthfawrogol a chefnogol iawn.