Symud at y prif gynnwys

Cyfarfod â’r Ymchwilydd: Clio Evans (Swyddog Cymorth Prosiect Ymchwil, ThinkCancer!)

Buom yn siarad â'r ymchwilydd Clio Evans ym Mhrifysgol Bangor am ei gwaith ar y treial clinigol ThinkCancer! a sut mae'n gwneud gwahaniaeth i gleifion ledled Cymru

Pa faes ymchwil ydych chi’n canolbwyntio arno, a beth yw nod eich prosiect Ymchwil Canser Cymru?

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar astudiaeth o’r enw ThinkCancer! sy’n canolbwyntio ar wella diagnosis cynnar o ganser mewn gofal sylfaenol. Rydyn ni’n profi cyfres o weithdai addysgol a ddyluniwyd o’r newydd sy’n cael eu cyflwyno i staff sy’n gweithio mewn meddygfeydd teulu ledled Cymru a gogledd-orllewin a de Lloegr. Nod y gweithdai yw gwella diagnosis cynnar ac arferion rhwyd ddiogelwch yn y meddygfeydd, sef y ffordd maen nhw’n adnabod a monitro arwyddion cynnar o ganser.

A fu unrhyw gyflawniadau allweddol hyd yma yn ystod y prosiect?


Rydyn ni’n gwybod bod y staff sy’n gweithio mewn meddygfeydd teulu yn brin iawn o amser ac adnoddau, felly mae’n aml yn anodd iddynt gymryd rhan mewn ymchwil. Ein nod oedd recriwtio 76 o feddygfeydd teulu ledled Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu meddygfeydd teulu, llwyddwyd i recriwtio 99 o feddygfeydd i gyd, gan ragori ar ein targed recriwtio! Mae hyn yn dangos bod meddygfeydd teulu ledled Cymru a Lloegr eisiau’r hyfforddiant ThinkCancer! ac yn credu yn yr astudiaeth. Mae’r gweithdai ThinkCancer! yn cael eu cyflwyno i’r meddygfeydd hyn yn raddol ar hyn o bryd ac mae’r adborth gan staff wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Sut byddech chi’n esbonio’ch prosiect i blentyn naw mlwydd oed?


Mae ThinkCancer! yn ceisio helpu pawb sy’n gweithio mewn meddygfeydd teulu i sylwi ar arwyddion canser yn gynt. Mae hyn yn golygu bod pobl sydd â chanser yn gallu cael y driniaeth y mae arnyn nhw ei hangen yn gyflymach i’w helpu i wella.

Sut gallai eich ymchwil wneud gwahaniaeth i gleifion canser yng Nghymru?


Os yw’r gweithdai hyn yn helpu meddygfeydd teulu i adnabod canserau posibl yn gynt a gwella diagnosis cynnar ac arferion rhwyd ddiogelwch, gobeithiwn y bydd hyn yn golygu y bydd cleifion canser yn cael eu hatgyfeirio i’r ysbyty ac yn cael y driniaeth y mae arnyn nhw ei hangen yn gyflymach. Gall diagnosis cynharach o ganser arwain at ganlyniadau gwell i gleifion, fel llai o driniaeth, cyfraddau goroesi uwch a, gobeithio, ansawdd bywyd gwell.

Pam a sut daethoch chi’n ymchwilydd Ymchwil Canser Cymru?


Datblygodd fy mrwdfrydedd ynglŷn ag ymchwil tra roeddwn yn astudio ar gyfer fy ngradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Yn ystod y cyfnod hwn, dysgais fod ymchwil yn gallu canolbwyntio ar bobl a chleifion, ac roedd hyn wedi fy ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn ymchwil gofal iechyd. Yn dilyn ymlaen o’m gradd Meistr, roeddwn yn awyddus i ddatblygu fy sgiliau fel ymchwilydd a dod yn rhan o dîm ymchwil dynamig, felly roeddwn yn falch iawn o ymuno â Thîm ThinkCancer! i weithio ar y treial newydd a chyffrous hwn sy’n cael ei ariannu gan Ymchwil Canser Cymru.

A oes gennych chi unrhyw gysylltiad personol â chanser?


Yn anffodus, rwy’n credu bod pawb y dyddiau hyn yn adnabod rhywun sydd wedi dioddef â chanser. Mae fy ewythr yn cael triniaeth ar gyfer canser y prostad ar hyn o bryd. Diolch i’r drefn, mae wedi ymateb yn dda iawn i’r driniaeth, sy’n dangos i mi bwysigrwydd diagnosis cynnar a’r gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud i wireddu hyn. Mae hynny’n fy ngwneud yn falch o weithio ar astudiaeth sy’n ceisio cynyddu cyfran y canserau y gwneir diagnosis cynnar ohonynt ac yn fy ysbrydoli ymhellach yn y gobaith y bydd y gwaith ymchwil hwn yn gwella bywydau cleifion canser ledled Cymru a thu hwnt.

Pan nad ydych yn ymchwilio, beth ydych chi’n ei wneud i ymlacio?


Rwy’n byw yn Eryri, felly rwy’n ffodus iawn o gael mynyddoedd Cymru ar fy stepen drws ac rwy’n dwlu mynd i heicio arnynt yn rheolaidd gyda fy nghi, Winnie.

A oes unrhyw beth yr hoffech ei ddweud wrth ein cefnogwyr?


Hoffwn ddiolch yn fawr i gefnogwyr Ymchwil Canser Cymru gan y Tîm ThinkCancer! cyfan. Eich cefnogaeth chi sy’n golygu y gallwn weithio tuag at wneud gwahaniaeth i wella diagnosis cynnar o ganser ledled Cymru a thu hwnt.