Symud at y prif gynnwys

Cyfarfod â’r Ymchwilydd: Amy Houseman

Buom yn siarad â myfyriwr PhD Prifysgol Caerdydd, Amy Houseman, am ei hymchwil, sy'n archwilio'r ffyrdd y mae ffactorau genetig yn effeithio ar y rhai sydd â chanser y coluddyn

Helpwch ein hymchwilwyr talentog i ymladd canser yng Nghymru

Rhoi arlein

Pa faes ymchwil ydych chi'n canolbwyntio arno, a beth yw nod eich prosiect Ymchwil Canser Cymru?

Teitl fy mhrosiect yw ‘Cadarnhau Biofarcwyr Prognostig ar gyfer Canser y Colon a’r Rhefr a Phennu eu Defnyddioldeb Clinigol’. Rwy’n chwilio am ffactorau wedi’u hetifeddu (genetig) sy’n effeithio ar oroesi ymhlith cleifion â chanser y coluddyn. 

Yn y Deyrnas Unedig, mae dros 16,000 o unigolion yn marw o ganser y coluddyn bob blwyddyn a nod fy ngwaith yw gwella siawns cleifion o oroesi.

A oes unrhyw lwyddiannau allweddol wedi bod yn ystod y prosiect hyd yn hyn?

Cyhoeddais rywfaint o fy ngwaith y llynedd yn BJC Reports, yn dangos bod rhai loci risg canser y coluddyn yn dylanwadu ar oroesiad y claf. Hefyd, mae papur arall wedi’i dderbyn ar gyfer Scientific Reports yn disgrifio amrywiolion genetig newydd sy’n dylanwadu ar oroesi. 

Rwy’ wrth fy modd yn ymwneud â’r cyhoedd i rannu fy ngwaith ac rwy’ wedi cadeirio cynhadledd symposiwm ‘Sôn am Wyddoniaeth’, diwrnod ymchwil ôl-raddedig Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a’r ‘Pint of Science’. 

Rwy’ wedi bod yn aelod panel yn nigwyddiad ‘Gwyddoniaeth ym Maes Iechyd yn Fyw!’ hefyd ac wedi trefnu’r ‘Her Gwyddorau Bywyd’ i fyfyrwyr TGAU yng Nghymru.

Sut fyddech chi'n esbonio'ch prosiect i blentyn naw oed?

Rwy’n chwilio am enynnau sy’n pennu am ba hyd rydych chi’n goroesi gyda chanser y coluddyn. Trwy nodi’r genynnau hyn, gallwn gynnig cymorth gwell a dod o hyd i driniaethau newydd.

Sut gallai eich ymchwil wneud gwahaniaeth i gleifion canser yng Nghymru?

Y gobaith yw y bydd fy ngwaith y llywio’r rheolaeth ar gleifion canser y coluddyn a’r canlyniad ar eu cyfer, ac yn helpu i nodi llwybrau ar gyfer ymyrraeth therapiwtig.

Pam a sut daethoch chi'n ymchwilydd Ymchwil Canser Cymru?

Ar ôl gorffen safon uwch, gwnes i radd israddedig BSc Geneteg (gydag anrhydedd) a chael dosbarth cyntaf. Yn ystod fy astudiaethau, fe wnes i flwyddyn ar leoliad mewn labordy geneteg yn Shanghai. 

Wedi hyn, cwblheais fy nhraethawd hir israddedig ar glefydau genetig prin a biowybodeg. Yna, fe wnes i gais am brosiect PhD wedi’i ariannu gan Ymchwil Canser Cymru yng Nghaerdydd, a dyna rwy’n gweithio arno nawr!

Oes gennych chi unrhyw gysylltiad personol â chanser?

Oes. Marwodd mam-gu ochr fy nhad o ganser y pancreas pan oeddwn i’n 15 oed a marwodd fy llys-fam-gu o ganser yr esgyrn yn ystod y cyfnod clo. Mae mam-gu ochr fy mam wedi cael canser y fron droeon, hefyd.

Y llynedd, yn ail flwyddyn fy noethuriaeth, cafodd fy nhad-cu ganser y coluddyn. Yn sgil astudiaethau fy noethuriaeth, roeddwn i’n teimlo’n fwy gwybodus i siarad ag ef am agweddau penodol ar ei ganser, beth ddylai holi’r meddygon amdano a sut i dawelu ei feddwl. 

Mae wedi bod yn anodd, ond mae gwybod rhywfaint o’r wyddoniaeth wrth wraidd y clefyd wedi helpu!

Pan nad ydych chi'n ymchwilio, beth ydych chi'n ei wneud yn eich amser hamdden?

Fel y dywedais uchod, rwy’n trefnu digwyddiadau gwyddoniaeth i’r cyhoedd, ond rwy’ hefyd yn trefnu digwyddiadau saffig i fenywod yng Nghaerdydd, felly pethau fel nosweithiau gemau bwrdd a digwyddiadau crefft. Hefyd, rwy’n chwarae’r ffliwt (yn wael!) mewn cerddorfa i fenywod.

A oes unrhyw beth yr hoffech ei ddweud wrth ein cefnogwyr?

Diolch yn fawr iawn. Mae Ymchwil Canser Cymru wedi bod mor gefnogol o fy ymchwil, ac rwy’ wedi cael boddhad mawr o wneud fy PhD yn y maes hwn.