Maer Llandudno, Y Cynghorydd Greg Robbins, fydd y gwestai anrhydeddus pan y bydd siop Ymchwil Canser Cymru newydd y dref y nagor yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae'r Cynghorydd Robbins yn mynd i dorri'r rhuban yn siop newydd crand elusen ganser Cymru yn Nhŷ Knightsbridge ar 11 Stryd Gloddaeth ddydd Sadwrn 13 Ebrill.
Mae'r agoriad yn cael ei gynnal am 10.00am a siop Llandudno yw'r siop gyntaf y mae Ymchwil Canser Cymru yn ei hagor yng Ngogledd Cymru.
Bydd y siop wedi ei addurno gyda brandio streipen lliw Ymchwil Canser Cymru sy'n cael ei ysbrydoli gan geliau dilyniannu DNA a ddefnyddir gan wyddonwyr.
Bydd yn gwerthu nwyddau o'r safon uchaf gan gynnwys dillad menywod, plant a dynion; amrywiaeth o eitemau cartref a bric-a-brac.
Yn ychwanegol, bydd hefyd yn darparu cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli i bobl leol.
Wrth groesawu Ymchwil Canser Cymru i Landudno, dywedodd y Cynghorydd Greg Robbins, Maer Llandudno:
"Ar ôl colli aelodau teuluol agos i ganser rwy'n hapus i gefnogi'r siop Ymchwil Canser Cymru newydd hon yn Llandudno. Mae’r gwaith sy'n cael ei wneud yn bwysig iawn ac mae hefyd yn wych gweld y siop eiconig hon yn cael ei hailagor i'r cyhoedd."
Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen Gymreig annibynnol a'r unig un sy'n gwbl ymroddedig i ariannu prosiectau ymchwil canser yng Nghymru.
Dros yr 11 mlynedd diwethaf, mae wedi dyfarnu dros £3 miliwn mewn grantiau i ysbytai a phrifysgolion ym Mangor a Wrecsam i ariannu ymchwil arloesol i ddiagnosis canser.
Mae’r elusen yn gofyn i bobl Llandudno gefnogi ei waith sy'n newid bywydau drwy roi eitemau o safon a siopa yn y siop newydd pan fydd yn agor.
Dywedodd Lorraine Boyd, Pennaeth Manwerthu Ymchwil Canser Cymru:
"Rydyn ni'n teimlo yn gyffrous iawn i ddod i Landudno - ' Brenhines Cyrchfannau Gwyliau Cymru' ac edrychwn ymlaen at weld ein siop liwgar yn dod yn dirnod cyfarwydd a hoffus yn y dref.
"Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen ledled Cymru ac mae agor ein siop newydd yn Llandudno yn garreg filltir wirioneddol i ni a'r cam cyntaf i ni agor ein cadwyn newydd o siopau yng Ngogledd Cymru.
"Dewch i'n cefnogi pan fyddwn yn agor ar 13 Ebrill a'n helpu i ariannu ein gwaith ymchwil sy'n newid bywydau drwy gyfrannu eich nwyddau poblogaidd, siopa gyda ni a gwirfoddoli eich amser."