Symud at y prif gynnwys

Lisa Buckley yw Pennaeth Cynhyrchu Incwm Ymchwil Canser Cymru

Codwr arian yn ymuno a’r elusen ymchwil canser Gymreig

Y codwr arian elusennol profiadol Lisa Buckley yw Pennaeth Cynhyrchu Incwm newydd ar gyfer yr elusen ymchwil canser Gymreig – Ymchwil Canser Cymru.

Mae gan Lisa yrfa hir yn y sector elusennol ac yn ei rôl ddiwethaf roedd yn Bennaeth Dyngarwch yn yr ymgynghoriaeth codi arian blaenllaw Gymreig - Richard Newton Consulting.

Yn ystod y cyfnod hwn, gweithiodd Lisa gyda chleientiaid amrywiol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Event Wales, Amgueddfa Cymru, Clwb Ifor Bach, CGGC a Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Cyn hynny, roedd hi'n Bennaeth Ymgysylltu â Chefnogwyr yn y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol lle roedd Lisa yn gyfrifol am godi arian cyhoeddus a gwneud y mwyaf o ymgysylltu â chefnogwyr, gan gynnwys cynllun aelodaeth o dros 18,000 o aelodau.

Dywedodd Lisa Buckley, Pennaeth Cynhyrchu Incwm newydd Ymchwil Canser Cymru:

"Mae'n gyfnod mor gyffrous i ymuno ag Ymchwil Canser Cymru dan arweiniad ein Prif Weithredwr newydd, Adam Fletcher. Mae gennym strategaeth ymchwil newydd a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Rwy'n gweld cyfle gwirioneddol yn y rôl hon i fod yn rhan o sefydliad a all wneud gwahaniaeth i ganlyniadau canser, ac rwy'n llawn egni i fod yn rhan o hynny.

"Yn anffodus, fel llawer o bobl, mae canser wedi cael effaith ddinistriol ar fy mywyd, felly mae'r symudiad hwn yn hynod ystyrlon ac yn cysylltu â fy ngwerthoedd personol. Mae yna uchelgais enfawr gan Ymchwil Canser Cymru i ariannu mwy o ymchwil canser yma yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen at adeiladu tîm uchelgeisiol sydd yn perfformio i’r eithaf i sicrhau y gallwn godi'r arian i alluogi'r elusen i wneud hynny."


Mae Lisa wedi gweithio fel Pennaeth Codi Arian Gofal Canser Tenovus ac mae hefyd wedi darlithio ar godi arian i fyfyrwyr Meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dechreuodd ei gyrfa codi arian yn 2001.

Wrth groesawu Lisa Buckley i Ymchwil Canser Cymru, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol yr elusen - Adam Fletcher:

"Mae'n bleser i groesawu Lisa i'r tîm yn Ymchwil Canser Cymru. Gyda disgwyl i un o bob dau ohonom ddatblygu canser yn ystod ein hoes, ni fu gwaith Ymchwil Canser Cymru erioed yn bwysicach, a dim ond diolch i gefnogaeth ac ewyllys da pobl Cymru y mae'r ymchwil arloesol hwn yn bosibl.

"Daw Lisa i weithio hefoYmchwil Canser Cymru wrth i'r argyfwng costau byw barhau i frathu'n galed. Gyda chyfleoedd cyllido i elusennau ostwng a chystadleuaeth am arian yn fwy nag erioed, mae'n amgylchedd heriol iawn i weithredu ynddo. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn ac yn dawel fy meddwl o gael codwr arian o safon Lisa wrth i ni barhau i ddarparu gobaith i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser heddiw a thrawsnewid y dyfodol i gleifion canser y dyfodol."