Bydd y siop yng Nghas-gwent yn agor ar ddydd Sadwrn 25 Mai am 10.00am, a hi fydd y siop Ymchwil Canser Cymru gyntaf i agor yng Ngwent.
Maer Cas-gwent, y Cynghorydd Tudor Griffiths, fydd ein gwestai anrhydeddus yn yr agoriad a bydd yn torri'r rhuban yn ein siop newydd ar 21 Stryd Fawr.
Bydd y siop wedi ei addurno ym mrandio streipiau lliw Ymchwil Canser Cymru sy'n cael ei ysbrydoli gan geliau dilyniannu DNA a ddefnyddir gan wyddonwyr, ac yn gwerthu nwyddau o'r safon uchaf gan gynnwys dillad menywod, plant a dynion, ystod o eitemau cartref a bric-a-brac.
Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli i bobl leol.
Wrth groesawu Ymchwil Canser Cymru i Gas-gwent, dywedodd y Cynghorydd Tudor Griffiths, Maer Cas-gwent:
"Rwy'n falch iawn o groesawu'r siop newydd hon i'n Stryd Fawr ddeinamig, ac yn y modd hwn i gefnogi elusen Gymreig yn ei gwaith sylweddol a allai fod o fudd i bob un ohonom."
Dywedodd Lorraine Boyd, Pennaeth Manwerthu Ymchwil Canser Cymru:
"Mae’n amser cyffrous iawn i Ymchwil Canser Cymru wrth iddym ni ddod i Gas-gwent gyda'i hanes a'i threftadaeth gyfoethog a diddorol ac edrychwn ymlaen at weld ein siop liwgar yn dod yn dirnod cyfarwydd a hoff yn y dref.
"Dewch i'n cefnogi pan fydd y siop yn agor ar 25 Mai a'n helpu i ariannu ein gwaith pwysig drwy gyfrannu eich nwyddau, siopa gyda ni neu wirfoddoli eich amser."