Fel ein Gyrrwr a Chydlynydd Cyfleusterau, mae Roger wedi bod yn aelod amhrisiadwy o deulu Ymchwil Canser Cymru dros y blynyddoedd.
"Mae gen i lawer o atgofion hapus o Ymchwil Canser Cymru, ond yr un hapusaf yw cael fy newis i fynd ar daith i China ac ymweld â Mur Mawr China, a oedd yn brofiad anhygoel," meddai Roger.
"Rwyf hefyd wedi cael llawer o hwyl wrth weithio yn Ymchwil Canser Cymru. Dwi'n cofio unwaith yn cael fy hun yn sownd mewn cae yng Nghaerfyrddin ar ôl digwyddiad gyda'r tîm Ymchwil, sy'n dal i wneud i mi chwerthin heddiw.
Rydw i'n mynd i golli fy nghydweithwyr a'r gwirfoddolwyr anhygoel yma sydd wedi dod yn ffrindiau da i mi” ychwanegodd Roger.
Yn ddyn amyneddgar a charedig, mae gan Roger hiwmor da ac mae’n boblogaidd iawn ymhlith y tîm yma yn Ymchwil Canser Cymru.
Mae wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o redeg ein logisteg yn esmwyth a rheoli a chludo ein stoc a'n nwyddau a roddwyd.
Yn giamstar gyda dodrefn fflat pac ac allwedd Allen, mae Roger wedi helpu gydag agor ein siopau a bod yn gyfrifol am reoli ein gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio a goruchwylio diogelwch ac iechyd a diogelwch.
Dywedodd Ian Davies sy'n gwirfoddoli i Ymchwil Canser Cymru ar ein fan casglu ac yn adnabod Roger yn dda:
"Mae Roger yn wych, mae'n bleser gweithio efo fo ac mae'n fy nhrin i gyda pharch pan dwi ar y fan. Un tro, pan oeddem yn agor siop Llandudno daeth i Gaerffili a'm codi yn y fan yn gynnar yn y bore tua 5.40am a diolchodd i mi am hynny. Byddaf yn ei golli'n fawr. Mae gen i lawer o atgofion hapus o Roger ac rydw i wedi bod yn gweithio gydag ef ers amser maith."
Wrth ddymuno yn dda i Roger, dywedodd Lorraine Boyd, Pennaeth Manwerthu Ymchwil Canser Cymru:
"Rwy'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran pawb yn Ymchwil
Canser Cymru pan ddywedaf ei bod wedi bod yn fraint llwyr cael gweithio gyda Roger. Mae'n gadael esgidiau mawr i'w llenwi, a byddwn i gyd yn ei golli, ond hoffwn ddymuno ymddeoliad hapus iawn i Roger gan ei holl ffrindiau yn Ymchwil Canser Cymru."