Rhedeg trwy’r pandemig
Fel cymaint o bobl eraill yn ystod y pandemig, ar y dechrau, doedd gen i ddim byd i’w wneud. Bydden i’n mynd am dro bob dydd, ac un diwrnod, meddyliais am loncian at bob yn ail bolyn lamp.
Yn raddol, dros gyfnod, cynyddais i nifer y polion lampau roeddwn i’n loncian heibio, gan wneud yn siŵr fy mod i’n cadw at gyflymdra cyson.
O fewn ychydig wythnosau, roeddwn i wedi dechrau rhedeg 5K eto, a dechreuais i her rithiol i redeg hyd Llwybr Arfordir Cymru - 870 milltir.
Bob dydd, byddwn i’n rhedeg ac yn cofnodi fy mhellter. Ceisiais i fynd o 5K i 10K, a oedd yn her, ond gyda chymorth a chefnogaeth gan ffrindiau, llwyddais i’w wneud!
Rhedodd un o’m ffrindiau 10K gyda fi, a dywedodd fy mod i’n fwy medrus nag yr oeddwn i’n ei gredu.
Gan fod digwyddiadau wedi’u gohirio o hyd, lansiodd Marathon Llundain ddigwyddiad ‘Marathon Rhithwir’ i’w gwblhau ddechrau mis Hydref 2020.
Gydag ychydig o anogaeth gan ffrindiau a theulu, y peth nesaf roeddwn i’n ei wybod oedd fy mod i’n hyfforddi ar gyfer marathon – a llwyddais i’w gwblhau!
Dros y cyfnod hwnnw o saith mis, sylweddolais fy mod i wedi dal y ‘byg rhedeg’ y mae pob rhedwr yn gyfarwydd ag e’.
Roedd yn ymddangos yn rhyfedd fy mod i wedi dal y byg heb unrhyw ddigwyddiadau wyneb yn wyneb i hyfforddi ar eu cyfer, ond yn raddol, dechreuodd mwy a mwy ohonyn nhw ailddechrau.