Symud at y prif gynnwys

Diagnosis yn ystod Pandemig: Taith Canser y Fron Ysbrydoledig Amy

Mae Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron yn gyfle i rannu storïau sy’n rhoi gobaith. Heddiw, byddwn yn archwilio taith Amy Isidoro trwy ganser y fron, o’i diagnosis, i’w thriniaeth – i sut mae hi nawr. Mae ei stori nid yn unig yn amlygu pwysigrwydd canfod yn gynnar ond hefyd yn dangos pŵer cymorth cymunedol ac ymdrechion codi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru

Diagnosis yng Nghanol Pandemig

Dechreuodd taith canser y fron Amy yn ystod y pandemig COVID a chyda baban chwe mis oed. Cafodd Amy boenau yn ei brest a phenderfynodd fynd at ei meddyg teulu. Roedd ei greddf yn dweud wrthi fod rhywbeth yn bod. Daeth ei meddyg teulu o hyd i lwmp a dywedodd wrthi am ddychwelyd mewn pythefnos i gael gwerthusiad arall.

"Yn ystod COVID, fe es i i’m hapwyntiad ar fy mhen fy hun, yng nghanol wynebau wedi’u cuddio â mygydau a chadw pellter cymdeithasol. Arhosodd fy ngŵr yn y car. Roeddwn i’n teimlo’n hyderus, gan feddwl na fydden nhw’n gadael i mi ddod ar fy mhen fy hun os oedd rhywbeth yn bod. Ond wrth i mi gerdded i ystafell y meddyg, fe ofynnodd nyrs – oes rhywun gyda chi heddiw?"


Dyna pryd y newidiodd bywyd Amy am byth.

Taith trwy Driniaeth

Roedd taith Amy trwy ganser y fron – a’r cyfan yn ystod y pandemig COVID – yn cynnwys cyfres o driniaethau, yr oedd pob un ohonynt yn gofyn am ddewrder a gwydnwch aruthrol.

Mae Amy’n parhau: "Fe wnes i gyfarfod â’r llawfeddyg, ac fe gynghorodd fi i gael cemotherapi. Roedd cyfyngiadau COVID llym iawn ar waith ar y pryd o hyd, felly roedd rhaid i mi fynd i’m hapwyntiadau ar fy mhen fy hun. Rwy’n dal i fod mor ddiolchgar i’r staff gwych a ofalodd amdana’ i.”

Yn ystod ei chemotherapi, cafodd Amy ei derbyn i’r ysbyty ddwywaith o ganlyniad i sepsis niwtropenig, sef cymhlethdod a achosir gan system imiwnedd wan.

Yna, cafodd Amy mastectomi ar ôl cwblhau cemotherapi ac, yn ffodus, daeth llawfeddygon o hyd i nodau lymff clir wrth wneud hynny. Roedd hynny’n golygu nad oedd angen iddi gael therapi ymbelydredd. Er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw gelloedd canser gweddilliol ar ôl, cafodd Amy chwe rownd arall o gemotherapi.

"Roeddwn i wedi mynd yn ôl i’r gwaith ychydig cyn diwedd fy nghemotherapi, ac ers hynny rydw i wedi cael dwy flynedd o sganiau clir. Rwy’n aros am fy llawdriniaeth adluniol nawr. Felly, mae popeth yn iawn ar ôl hynny."

Pwysigrwydd Canfod yn Gynnar

Mae cyngor Amy i bobl eraill yn syml, ond yn hollbwysig: "Os ydych chi’n credu bod rhywbeth yn bod, ni waeth pa mor fach, ni waeth sut rydych chi’n ceisio ei fychanu, ni waeth beth mae Google yn ei ddweud, ewch i weld meddyg.”

Mae hi wedi bod yn ymwneud yn frwd â digwyddiadau codi arian, gan gynnwys noson gomedi lwyddiannus yn ei neuadd gymunedol leol, a gododd £700.

Gobeithiwn y bydd stori Amy yn rhoi gobaith i chi, gan annog pobl eraill i beidio ag ofni ceisio sylw meddygol pan fyddwch yn teimlo bod rhywbeth yn bod. Gallwch ddarllen mwy am y treial ThinkCancer! yma, sy’n gweithio gyda meddygon teulu ac yn cynnig hyfforddiant practis cyfan i wella canfod canser yn gynnar.

Mae gwydnwch ac ymroddiad Amy i godi ymwybyddiaeth ac arian i Ymchwil Canser Cymru yn ysbrydoledig, ac rydyn ni mor ddiolchgar am ei chefnogaeth yn dilyn ei heriau iechyd sylweddol ei hun.