Cychwyn 2025 gyda #CymruUnited!
Rydym yn dechrau'r flwyddyn newydd drwy ofyn i'r cyhoedd ymuno â'n tîm sydd yn cael ei datgelu heddiw - Cymru United, er mwyn uno yn erbyn canser!
Helpwch ni i ddangos y cerdyn coch i ganser
Ymunwch â Cymru United
Daw’r cyhoeddiad mewn fideo ar thema pêl-droed ac mae aelodau’r tîm yn cynnwys pobl o bob cwr o Gymru sy'n gysylltiedig ag Ymchwil Canser Cymru – codwyr arian, gwirfoddolwyr, ymchwilwyr a llawfeddygon sydd yn helpu i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru.
Wrth sôn am y lansiad, dywedodd Phrif Weithredwr Ymchwil Canser Cymru, Adam Fletcher:
"Rwy'n falch iawn o gyflwynno tîm Cymru United i bobl Cymru heddiw a dangos sut y gallwch gefnogi Ymchwil Canser Cymru a bod yn rhan o’n gwaith mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Dyma dîm lle mae pawb yn chwarae eu rhan yn y frwydr yn erbyn canser.
"Rydyn ni eisiau i Gymru gyfan fod yn rhan o Cymru United. Os ydych chi'n rhoi rhodd i ni bob mis; yn wirfoddolwr neu os ydych chi'n godwr arian - rydych chi i gyd yn rhan o'n tîm - rydych chi i gyd yn aelodau o Cymru United.
"Felly cymerwch ran a chofrestrwch ar gyfer Cymru United heddiw drwy ymweld â ymchwilcanser.cymru. Helpwch ni i ddangos y cerdyn coch i ganser a rhoi gobaith i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser heddiw a chleifion yfory."
Mae ffilm Cymru United yn cynnwys cyfweliadau gydag aelodau'r tîm gan gynnwys y rhedwr Vince Norris a'r ymchwilydd Rebekah Clarke.
Rhedodd Vince Hanner Marathon Caerdydd yn 2024 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru gyda'i frawd - Jay, er cof am ei fam, Lisa, fu farw yn 36 oed o ganser. Roedd Vince a Jay yn 16 a 15 oed pan fu farw eu mam.
Mae PhD Rebeca yn cael ei ariannu gan Ymchwil Canser Cymru. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddylunio, synthesis a phrofi cyffuriau ar gyfer lewcemia myeloid acíwt yn y gobaith o well prognosis i gleifion a thriniaethau llai caled.
Dangoswch eich bod yn cefnogi’r tîm trwy dagio @CancerResearchWales gyda'r hashnod #CymruUnited! Cofiwch - mae pawb yn rhan o'r tîm!
