Symud at y prif gynnwys

Cyfarfod â’r Ymchwilydd: Sophie Shaw

Buom yn siarad â Sophie Shaw. Mae ei phrosiect ymchwil a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru yn gweithio gyda samplau gwaed cleifion canser yr ysgyfaint i wneud y gorau o'r prosesau profi presennol

Helpwch ein hymchwilwyr talentog i ymladd canser yng Nghymru

Rhoi arlein

Pa faes ymchwil ydych chi'n canolbwyntio arno, a beth yw nod eich prosiect Ymchwil Canser Cymru?

Rwy’n gweithio i’r GIG yn gwneud profion genetig sy’n dweud wrthym ba opsiynau triniaeth sydd orau i gleifion canser. 

Fy mhrif nod ymchwil yw ymchwilio i ffyrdd gwahanol o gyflawni’r profion hyn fel eu bod yn fwy effeithlon i gleifion ac fel bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n well yn y gwasanaeth gofal iechyd. 

Ar gyfer fy mhrosiect sydd wedi’i ariannu gan Ymchwil Canser Cymru, rwy’n gweithio gyda samplau gwaed gan gleifion sydd â chanser yr ysgyfaint. 

Mae’r samplau gwaed hyn yn cynnwys lefelau bach iawn o DNA tiwmorau, ac rwy’n profi dwy dechnoleg newydd i weld a allant wneud yr un profion genetig ag rydym ni eisoes yn ei wneud gyda’r math hwn o sampl, ond yn gynt, gyda mwy o wybodaeth!

A oes unrhyw lwyddiannau allweddol wedi bod yn ystod y prosiect hyd yn hyn?

Megis dechrau mae’r prosiect o hyd ac rydym ni ond newydd ddechrau casglu’r data ar y technolegau newydd hyn. Hyd yn hyn, mae wedi gofyn bod nifer fawr o bobl yn dod ynghyd er mwyn gwneud ymchwil mewn lleoliad gofal iechyd. 

Mae hyn yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, unigolion o’r tîm Rheoli Ymchwil sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr ymchwil yn cael ei chyflawni’n gyfreithiol ac yn foesegol, a rolau gweinyddol pwysig gan gynnwys archebu a chyllid. 

Felly, mae’n gamp ynddo’i hun ein bod wedi cydlynu’r holl unigolion sy’n gysylltiedig yn llwyddiannus er mwyn dechrau’r prosiect hwn!

Sut fyddech chi'n esbonio'ch prosiect i blentyn naw oed?

Mae canser yn digwydd pan fydd nam yn y celloedd yn eich corff ac maent yn dechrau tyfu’n ddireolaeth. Mae sawl ffordd wahanol y gall cell fynd yn ddiffygiol, ac mae gweithio hyn allan yn dweud wrthym ba fath o feddyginiaeth fydd yn gweithio orau ar gyfer y canser hwnnw. 

Rwy’n gweithio i ddarganfod ffyrdd newydd o brofi am yr hyn sy’n achosi’r nam yn y gell fel y gall cleifion canser ddechrau cymryd meddyginiaethau’n gynt, neu hyd yn oed ddechrau cymryd meddyginiaethau newydd.

Sut gallai eich ymchwil wneud gwahaniaeth i gleifion canser yng Nghymru?

Mae treialon clinigol eisoes ar y gweill yn archwilio’r defnydd o samplau gwaed ar gyfer profion genetig cynt a llai ymyrrol mewn cleifion canser yng Nghymru. 

Bydd fy ymchwil yn gweithio tuag at ffyrdd o gael y canlyniadau hyn i gleifion yn gynt fyth ac, o bosibl, ehangu’r profion i gynnwys mwy o opsiynau triniaeth.

Pam a sut daethoch chi'n ymchwilydd Ymchwil Canser Cymru?

Fe wnes i gais llwyddiannus am Grant Arloesi Ymchwil Canser Cymru yn 2024, gan ddechrau fy mherthynas weithio gydag Ymchwil Canser Cymru yn swyddogol. 

Roedd hwn yn gynllun ariannu perffaith ar gyfer fy ymchwil, sy’n canolbwyntio ar fuddion datblygiadau technolegol i gleifion canser yng Nghymru.

Oes gennych chi unrhyw gysylltiad personol â chanser?

Trwy fy rôl yn y GIG, rwy’n gweld yr effaith gaiff canser ar unigolion a’u teulu a’u ffrindiau bob dydd, yn ogystal â’r baich y gall profion genetig eigael ar ein hadnoddau. Mae hyn wir yn fy symbylu i i wella profiadau’r cleifion hyn yng Nghymru trwy wneud y broses hon yn fwy effeithlon.

Pan nad ydych chi'n ymchwilio, beth ydych chi'n ei wneud yn eich amser hamdden?

Rwy’n fam i fab ifanc, sy’n fy nghadw i’n brysur! Pan fydd gen i amser, rwy’n hoff o redeg pellteroedd hir. Eleni, cwblheais i Hanner Marathon Caerdydd am y chweched tro, felly rwy’n edrych ymlaen at redeg i fannau newydd ar draws de Cymru!

A oes unrhyw beth yr hoffech ei ddweud wrth ein cefnogwyr?

Diolch yn fawr iawn i chi am gefnogi gwaith ymchwilwyr Ymchwil Canser Cymru fel fi. Mae eich cyfraniadau a’ch cefnogaeth yn hanfodol er mwyn i waith arloesol ddigwydd ar draws Cymru gyfan. Allen ni ddim gwneud hyn hebddoch chi!