Symud at y prif gynnwys

Milltir Bob Awr: Stori Corey

Buom yn siarad â Corey Evans o Aberhonddu sydd wedi codi dros £7,000 drwy redeg i Ymchwil Canser Cymru i gefnogi ffrind agos

Darllenwch ei stori isod a'i gefnogi ar ei daith

Beth wnaethoch chi i godi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru?

Penderfynais wneud her oedd un filltir, ar yr awr, bob awr am 24 awr! I fynd ag ef y tu hwnt i diriogaeth marathon, gorffennais gyda rhediad o 4.2 milltir ar y 25ain awr i fynd â hi i gyfanswm o 28.2 milltir!

Pam wnaethoch chi ddewis codi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru?

Roedd yr her er budd ffrind agos a gafodd lawdriniaeth ar yr ymennydd tua diwedd 2023. 

Sut wnaethoch chi feddwl am y syniad o'r filltir bob awr am 24 awr?


Dewisais yr her hon gan ei bod yn wahanol i unrhyw beth rwyf wedi'i weld o'r blaen ac roeddwn i eisiau iddi fod yn unigryw.

Sut gwnaeth eich ffrindiau a'ch teulu ymateb i'r syniad?


Er bod ffrindiau a theulu yn meddwl fy mod ychydig yn wallgof am wneud hyn, cefais gefnogaeth wych a ymunodd 66 o redwyr gwahanol â mi trwy gydol y dydd. Rhai yn cwblhau 1 filltir a rhai llawer mwy!

Sut oedd yr her?


Roedd yn draenio'n gorfforol ac yn feddyliol heb gwsg o gwbl a diffyg bwyd! Y anoddaf yn bendant oedd rhwng 1-3am lle'r oedd hi’n dywyll fel bol buwch a roedd angen gwisgo torch pen yn wynebu tuag at y ddaear ac un droed o flaen y llall!

Sut oeddech chi'n teimlo ar ôl yr her?


Roedd cyrraedd y llinell derfyn gyda thorf o leiaf 200-300 yn arbennig ac yn gwneud pob eiliad roeddwn wedi ei redeg yn werth chweil! Roedd cyfuniad o ryddhad, blinder ac emosiwn yn sefyll allan!


Sut deimlad oedd hi pan sylweddoloch eich bod wedi codi dros £7,000 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru?

Roedd gweld y cyfanswm yn codi heibio £7,000 gan gynnwys Gift Aid yn wirioneddol anhygoel a byddaf yn ddiolchgar am byth.

Ydych chi'n cynllunio mwy o heriau codi arian nawr?


Pwy a ŵyr? Efallai bod un arall rownd y gornel.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun oedd yn ystyried gwneud digwyddiad codi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru?

Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried digwyddiad yw - GWNEWCH O - byddwch byth yn gwneud unrhyw beth mwy gwerth chweil am achos gwych.

Ydych chi wedi eich ysbrydoli? Cysylltwch â ni a gofynnwch am eich pecyn codi arian am ddim yma!