‘Cofi-wch alw draw i agoriad ein siop newydd ar fore Sadwrn 15 o Fawrth’ – dyna’r neges gan Ymchwil Canser Cymru heddiw i drigolion Caernarfon.
Maer Caernarfon - y Cynghorydd Dewi Jones, fydd yn torri'r rhuban i agor siop yr elusen ymchwil canser Gymreig ar 11 Stryd y Llyn am 10.00am.
Bydd masgot Ymchwil Canser Cymru - Streipen y Ddraig, hefyd yn gwneud ymddangosiad arbennig yn agoriad y siop.
Dywedodd Lorraine Boyd, Pennaeth Manwerthu Ymchwil Canser Cymru: "Rwy'n edrych ymlaen at agor ein siop newydd yng Nghaernarfon – tref y Cofis, gyda'i hanes a'i threftadaeth anhygoel a'i lleoliad trawiadol ar lannau Afon Menai.
"Dyma'r bedwaredd siop Ymchwil Canser Cymru rydyn ni wedi'i hagor yng Ngogledd Cymru mewn llai na 12 mis ac rwy'n ddiolchgar i'r Cynghorydd Dewi Jones am ddod i dorri'r rhuban ac agor siop Caernarfon yn swyddogol i ni fore Sadwrn yma.
"Ymchwil Canser Cymru yw'r unig elusen sy'n gwbl ymroddedig i ariannu ymchwil i ganser yng Nghymru ac rydym yn buddsoddi ein holl gyllid ymchwil yng Nghymru, felly dewch draw i'n cefnogi trwy siopa; rhoi eich nwyddau rydych wedi eu caru ymlaen llaw i ni a gwirfoddoli gyda ni yng Nghaernarfon."
Bydd y siop yng Nghaernarfon yn gwerthu nwyddau o'r safon uchaf gan gynnwys dillad menywod, plant a dynion, amrywiaeth o eitemau cartref a bric-a-brac ac yn darparu cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli.
Fe'i haddurnir yn logo brandio streipen lliw nodedig Ymchwil Canser Cymru sy'n cael ei ysbrydoli gan geliau dilyniannu DNA a ddefnyddir gan wyddonwyr i ddod o hyd i gelloedd canser.
Mae enwau lleoedd lleol gan gynnwys Twthill, Y Maes a Cei Llechi hefyd wedi eu hymgorffori ym mrandio'r siop.
Dywedodd llysgennad Ymchwil Canser Cymru a'r dyn busnes lleol, Rob Lloyd:
"Dyma'r drydedd uned siop y mae Bearmont Construction wedi'i chwblhau ac wedi cael y pleser o drawsnewid ar gyfer Ymchwil Canser Cymru, ac mae wedi bod yn wych gweithio gyda'u tîm unwaith eto. Mae'r siop arbennig hon yn eiddo i'n chwaer gwmni, Knightsbridge House Estates. Mae siop Caernarfon wedi cael ei hadnewyddu'n llwyr, o dô fflat newydd a nenfwd crog i loriau ffres, gwaith atgyweirio pren, ac ailaddurno llawn drwyddi draw. Mae'n werth chweil gweld unedau gwag a oedd gynt yn wâg yn dod yn ôl yn fyw fel mannau disglair, glân a chroesawgar sydd nid yn unig yn creu swyddi lleol ond sydd hefyd yn cefnogi ymchwil a datblygiadau hanfodol yn y frwydr yn erbyn canser."