Mae cardiau Nadolig Ymchwil Canser Cymru ar gael mewn 20 o ddyluniadau lliwgar, traddodiadol a modern, ac maent yn costio £3.75 am becyn o 10.
O ddynion eira i Robin goch; y tri gŵr doeth i Siôn Corn; i ddyluniadau ysgafn 'Four candles' a 'Heavenly pees', mae rhywbeth at ddant pawb.
Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru:
"Helpwch ni i uno Cymru yn erbyn canser y Nadolig hwn drwy alw i mewn i'ch siop Ymchwil Canser Cymru agosaf a phrynu rhai o'n cardiau Nadolig.
"Drwy wneud hynny, gallwch ein cefnogi i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion canser ledled Cymru a rhoi gobaith i'r genhedlaeth nesaf o gleifion canser.
"Fel yr elusen ymchwil canser Gymeig, rydym yn gwario ein holl gyllid ymchwil yma yng Nghymru i ddod o hyd i driniaethau gwell ar gyfer pob canser er mwyn darparu ansawdd bywyd gwell i bobl sy'n byw gyda'r clefyd."
Mae cardiau Nadolig Ymchwil Canser Cymru bellach ar werth yn eich siop Ymchwil Canser Cymru agosaf.