Symud at y prif gynnwys

“Canser, dewisaist y person anghywir”: Stori Heulwen

Daw Heulwen o dde Cymru ac mae’n nyrs glinigol wedi ymddeol a fu’n arbenigo mewn dermatoleg bediatrig. Roedd Heulwen yn berson heini ac egnïol a bu’n gweithio ym mhob rhan o Went yn ystod ei gyrfa, ac roedd hefyd yn wraig ac yn fam brysur.

Ym mis Medi 2022, dechreuodd Heulwen brofi diffyg traul a sylwodd fod bwyd yn mynd yn sownd yn ei llwnc os oedd hi’n bwyta’n rhy gyflym.

Dysgwch fwy am ein hymchwil i ganser oesoffagaidd

Dysgwch fwy

Torgest fylchog?

“Ym mis Medi 2022, dechreuais ddioddef diffyg traul a’r teimlad wrth fwyta bod bwyd yn mynd yn sownd, ond byddwn yn iawn ar ôl ychydig. Roedd gan fy ngŵr dorgest fylchog ac roedd fy symptomau yn debyg i’w symptomau ef a rhoddais gynnig ar ei feddyginiaeth – lansoprazole – ac roedd hynny o gymorth sylweddol, felly roeddwn i’n meddwl bod gen i dorgest fylchog.

Es i at fy meddyg teulu i esbonio fy symptomau a dywedodd ei bod yn debygol bod gen i dorgest fylchog, ond ni allai esbonio’r teimlad bod bwyd yn mynd yn sownd. Roeddwn yn iach ar y cyfan, ac nid oeddwn wedi colli unrhyw bwysau ac roeddwn i’n heini ac yn egnïol, felly cefais fy atgyfeirio i’r ysbyty gan fy meddyg teulu, a chefais endosgopi.

Ar yr un pryd, roedd fy mam yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac wedi dod allan o ofal dwys yn ddiweddar, ac ar ôl yr endosgopi, roedd angen i mi yrru i Borthcawl i weld fy nhad a oedd hefyd yn sâl, felly cefais yr endosgopi heb dawelydd. Roedd yn gyfnod anodd iawn i bawb ohonom beth bynnag gyda phopeth a oedd yn digwydd, ac roedd fy nheulu a minnau o dan lawer o bwysau.”

Canser yr oesoffagws

Dangosodd yr endosgopi fod gan Heulwen dorgest fylchog, ond yn ogystal, fod ganddi diwmor a oedd yn ganser yr oesoffagws.

“Cefais ddiagnosis o ganser yr oesoffagws ar 11 Tachwedd 2022 yn Ysbyty’r Mynydd Bychan yng Nghaerdydd – roedd hyn ychydig wythnosau ar ôl i’r Frenhines farw. Roeddwn wedi profi diffyg traul ysgafn ac anhawster llyncu bwyd ers rhai misoedd.

Bûm yn gweithio fel nyrs glinigol yn arbenigo mewn dermatoleg bediatrig, ac roedd yn ymddangos fel petawn wedi cael yr igian ar ôl cinio bob dydd Gwener ers 2020 oherwydd ein bod yn rhuthro i fwyta ein brechdanau rhwng clinigau, ond roedd hynny’n ysbeidiol, ac o ystyried, efallai mai arwydd cynnar oedd hynny, ond nid oeddwn yn teimlo’n sâl ar y pryd.”

“Canser, dewisaist y person anghywir!”

“Ar ôl cael yr endosgopi – roeddwn i’n dal ar y bwrdd, a dweud y gwir, a gallwn weld y sgrin, dywedwyd wrthyf ar unwaith fod gen i ganser. Roedd yn teimlo’n afreal. Rwy’n berson sy’n bwrw ymlaen â phethau, i raddau helaeth, a dywedais, 'Canser, rwyt ti wedi dewis y person anghywir!'".

Y pethau ymarferol uniongyrchol o ran cefnogi fy nheulu – roedd fy rhieni yn eu 80au, fy mhlant – dyna’r peth cyntaf a ddaeth i’m meddwl – hynny a chael fy ngŵr i ddod i’m cynorthwyo. Felly, dyna fi ar y bwrdd a gallwn weld y canser ar y sgrin. Gallwn weld ar unwaith ei fod yn rhy fawr i fod yn bolyp.”

Rhoddodd y diagnosis sioc i Heulwen gan nad oedd hi’n bodloni’r meini prawf arferol ar gyfer rhywun a fyddai’n cael diagnosis o ganser yr oesoffagws gan ei bod yn fenyw, nid oedd erioed wedi ysmygu, a roedd yn yfed yn gymedrol yn unig. Ond trodd Heulwen at ochr ymarferol ei sefyllfa a dechreuodd drefnu ar gyfer ei theulu ar unwaith.

Dweud wrth fy nheulu

“Roedd y nyrs arbenigol yn wych – roedd hi’n 5.00pm ar ddydd Gwener pan gefais y diagnosis, ac yn y fan a’r lle, trafodwyd yr opsiynau ar gyfer triniaeth. Cefais fy rhuthro ar unwaith i gael sgan CT ac yna aethom adref. 

Roedd fy mab yn y tŷ a dywedom wrtho, a bu’n rhaid i ni ffonio fy merch yn Warwig i dorri’r newydd iddi ac yna gyrrodd fy ngŵr yno i’w chasglu a dod â hi adref. 

Es i â fy mab gyda mi i Ysbyty Tywysoges Cymru i ddweud wrth fy mam bod rhywbeth wedi’i ddarganfod ac y byddai angen rhywfaint o driniaeth arnaf, ac yna gyrrais i Borthcawl i adael fy mab yno i gynorthwyo fy nhad a oedd yn dal yn sâl.”

“Chwe wythnos yn ddiweddarach ar 9 Ionawr, dechreuodd fy nhriniaeth a chefais gemobelydredd – sef cyfuniad o gemotherapi a radiotherapi – am bum wythnos. 

Ar ddydd Llun, cawn oriau o gemotherapi gyda radiotherapi i ddilyn; cawn radiotherapi ddydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener; dydd Sadwrn oedd fy niwrnod i ffwrdd, ac ar ddydd Sul, cawn brofion gwaed cyn dydd Llun pan fyddai’r driniaeth yn dechrau drachefn.”

Ni theimlais gymaint o gariad erioed

Er y sioc o gael diagnosis o ganser a’r dioddefaint o gael llawdriniaeth fawr sy’n newid bywyd, a radiotherapi a chemotherapi a cholli pedair stôn o bwysau, dywed Heulwen fod yr atgof mwyaf sydd ganddi o’i phrofiad o ganser yn un cadarnhaol.

“Ni theimlais gymaint o gariad erioed – dyna’r atgof annwyl sydd gennyf o’m profiad â chanser, ac rwyf hefyd wedi cyfarfod â phobl anhygoel gan gynnwys cyd-gleifion sydd bellach yn ffrindiau oes i mi. Roeddem yn cefnogi ein gilydd ar ein teithiau.

Rwyf hefyd yn ddiolchgar dros ben i’m llawfeddyg a ddefnyddiodd ei sgiliau i achub fy mywyd. Roedd hi’n gwybod bod y canser wedi lledaenu i’m nodau lymff. Roedd yn un o’m nodau lymff, ond tynnodd 47 ohonyn nhw allan – heb unrhyw betruso – bwriodd ati, ac mae gen i gymaint o barch tuag ati hi a’m honcolegydd, ac rwy’n ddyledus am fy mywyd iddyn nhw.”