Mae Ymchwil Canser Cymru yn sefydlu Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd i ariannu ymchwil arloesol i diwmor yr ymennydd yng Nghymru.
Bydd yn sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes ymchwil a thriniaeth tiwmorau'r ymennydd ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i wyddonwyr o'r clefyd.
Yn ychwanegol, bydd Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd yn datblygu triniaethau newydd i achub ac ymestyn bywydau a darparu gwell cefnogaeth i bobl sydd â thiwmorau ar yr ymennydd
Dywedodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil Ymchwil Canser Cymru - yr unig elusen sy'n gwbl ymroddedig i ariannu ymchwil canser yng Nghymru i Gymru:
"Mae cynnydd o 39% wedi bod yn nifer yr achosion o diwmor sylfaenol ar yr ymennydd yn y DU ers y 1990au gyda dros 600 o'r rhain yn digwydd yn flynyddol yng Nghymru.
"Yn wahanol i lawer o fathau eraill o ganser, prin y mae cyfraddau goroesi cleifion tiwmor yr ymennydd wedi gwella dros y 30 mlynedd diwethaf. Ychydig iawn o driniaethau newydd sydd wedi cael eu cyflwyno yn ystod y cyfnod hwn ac anaml iawn y bydd cyfraddau goroesi hir-dymor ar gyfer y mathau mwyaf ymosodol o diwmor yr ymennydd yn fwy na 10%", ychwanegodd.
Meddai Dr Lee Campbell: "Er bod canlyniadau gwell i’w cael gyda thiwmorau ymennydd cynradd plentyndod, mae natur y triniaethau presennol yn golygu bod y plant hyn yn aml yn ei chael hi'n anodd byw bywydau cwbl annibynnol fel oedolion. Mae angen strategaethau triniaeth newydd a mwy caredig i’r corff sydd nid yn unig yn gwella cyfraddau goroesi ymhellach, ond yn bwysig yn lleihau sgîl-effeithiau hirdymor a nam gwybyddol".
"Bydd Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd Ymchwil Canser Cymru y fenter cyntaf o’i math yng Nghymru a bydd yn sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang ar gyfer clefyd sy'n hynod o anodd ei drin."
Cael gwell dealltwriaeth o'r clefyd
Bydd y rhaglen, sy'n bwriadu buddsoddi hyd at £1 miliwn bob blwyddyn ar gyfer astudio tiwmorau'r ymennydd, yn dod â gwyddonwyr, clinigwyr a niwrolawfeddygon o bob rhan o Gymru at ei gilydd, i gydweithio i gael gwell dealltwriaeth o'r clefyd.
Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at ddatblygu therapïau newydd a mwy caredig sydd nid yn unig yn cynyddu cyfraddau goroesi ond sydd hefyd yn darparu gwell cefnogaeth a gwella ansawdd bywyd cleifion tiwmor yr ymennydd ym mhobman.