Anghydraddoldebau canser yng Nghymru (Rhan 2)
Yn y cyntaf o’r ddau blog hyn, trafodom yr anghydraddoldebau mewn ystadegau canser ar draws Cymru a sut mae anghysondebau mewn gwasanaethau gofal sylfaenol yn cyfrannu at yr anghydraddoldebau hyn. Yn yr ail blog hwn, byddwn ni’n ymdrin â rhai o’r ffactorau ffordd o fyw a amlygwyd yn adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser ac agweddau eraill ar wasanaethau gofal iechyd lle mae anghydraddoldebau’n bodoli, ynghyd â rhai o’r mesurau eraill a awgrymwyd gan Ymchwil Canser Cymru i ysgogi newid cadarnhaol.
Mae’r ystadegau canser a drafodwyd yn ein blog cyntaf yn creu darlun clir o’r anghydraddoldebau ar draws Cymru. Mae’r esboniad ar gyfer y sefyllfa hon yn amlochrog ac yn gymhleth, gyda ffactorau gwahanol yn cael mwy neu lai o ddylanwad mewn ardaloedd gwahanol. Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser yn amlygu dau ffactor allweddol o ran ffordd o fyw sy’n cyfrif, yn rhannol o leiaf, am yr anghysondebau rhwng ardaloedd â lefel uchel o ddifreintedd ag ardaloedd â lefel isel.
Cydnabuwyd ers amser hir mai ysmygu yw un o’r prif ffactorau risg ar gyfer datblygu amrywiaeth o ganserau, yn enwedig canser yr ysgyfaint. Yn wir, amcangyfrifir mai ysmygu yw achos uniongyrchol tua 3100 achos o ganser yng Nghymru bob blwyddyn, gan gynrychioli dros 15% o’r holl achosion. Mae effaith canser yn gysylltiedig ag ysmygu yn cael ei deimlo fwyaf mewn ardaloedd difreintiedig, lle mae’r gyfradd ysmygu 4 gwaith yn uwch nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Byddai annog newidiadau i ymddygiadau ysmygu mewn cymunedau difreintiedig yn helpu i atal llawer o achosion o ganser bob blwyddyn a dechrau lleihau’r anghydraddoldeb mawr yn nifer yr achosion o ganser. Yn allweddol i hyn fydd y rhaglen arfaethedig ar gyfer sgrinio am ganser yr ysgyfaint, y mae bwriad dechrau peilot ohoni ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eleni. Bydd yn cael ei thargedu at unigolion uchel eu risg ac wrth ei chyflwyno, bydd yn cynnwys cyngor ar roi’r gorau i ysmygu.
Mae gordewdra yn ffenomen fwyfwy cyffredin yng Nghymru, gydag oddeutu chwarter o oedolion wedi’u dosbarthu’n ordew ar hyn o bryd – os bydd y duedd bresennol yn parhau, bydd cynifer o bobl ordew â phobl o bwysau iach ymhen tuag 20 mlynedd. Mae bod dros bwysau neu’n ordew yn gysylltiedig â mwy o risg datblygu canser ac amcangyfrifir bod gordewdra’n uniongyrchol gyfrifol am oddeutu 1000 o achosion o ganser yng Nghymru bob blwyddyn, nifer a fydd yn codi os bydd tueddiadau presennol yn parhau. Mae cyfran y bobl sy’n ordew yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gyda gwahaniaeth o 9% o gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, gan olygu bod yr achosion ataliadwy hyn o ganser yn cyfrannu at anghydraddoldeb enfawr.
Mae rhaglenni sgrinio’n bodoli yng Nghymru ar gyfer canserau’r coluddyn, y fron a chanser ceg y groth, ac maent yn ffordd bwysig o wneud diagnosis o’r canserau hyn mor gynnar â phosibl. Fodd bynnag, gall sgrinio ond ddarganfod canser os bydd pobl yn mynd i’w hapwyntiadau a’r profion priodol yn cael eu cynnal. Rhwng ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig Cymru, mae amrywiaeth sylweddol yng nghyfran y bobl sy’n mynd i’w hapwyntiadau sgrinio, gyda phobl o gymunedau hynod ddifreintiedig yn llai tebygol o fynd – mae hyn i’w weld yn gliriach yn achos sgrinio canser y fron, gyda gwahaniaeth o bron i 20% yn y nifer sy’n mynd i gael eu sgrinio. Mae’r nifer ostyngol o sgriniadau sy’n cael eu cynnal yn golygu bod canserau cynnar yn cael eu colli ac mae diagnosis yn fwy tebygol o gael ei wneud pan fydd y canser yn ddatblygedig, gan ostwng y siawns o oroesi.
Mae Ymchwil Canser Cymru o’r farn y dylai meddygfeydd chwarae rhan fwy gweithgar wrth gefnogi rhaglenni sgrinio canser cenedlaethol trwy anfon llythyron targedig at bobl sydd wedi colli eu hapwyntiad sgrinio cychwynnol. Petai’r mesur syml hwn yn cael ei ddefnyddio ar draws Cymru, byddai’n helpu i gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio a dechrau cau’r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Ar ôl amau canser, rhaid i brofion priodol gadarnhau’r diagnosis. Fodd bynnag, mae oedi cynyddol cyn cael mynediad at y profion diagnostig hyn, ac mae pandemig COVID-19 wedi gwaethygu’r niferoedd sy’n aros. Un enghraifft allweddol yw gwasanaethau colonosgopi, sef yr offeryn diagnostig o safon aur ar gyfer canser y coluddyn – ym Mai 2023, roedd dros 8100 o bobl yn aros am golonosgopi yng Nghymru ac, yn syfrdanol, mae tua 3500 o’r bobl hyn wedi bod yn aros dros 14 wythnos, gyda rhai’n aros yn hwy o lawer. Mae oedi o’r fath yn arwain at ddiagnosis o ganserau mwy datblygedig a deilliannau gwaeth i gleifion. Gan fod nifer yr achosion o ganser y coluddyn a marwolaethau ar eu huchaf mewn cymunedau difreintiedig, mae’r oedi hwn yn gwaethygu anghydraddoldeb sydd eisoes yn bodoli.
Mae Ymchwil Canser Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth mwy targedig ar gyfer gwasanaethau diagnostig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig i ddechrau mynd i’r afael â’r rhestr aros hir.
Felly, mae Ymchwil Canser Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer canolfannau recriwtio ac unedau treialon i gynyddu capasiti a chynnig mynediad i dreialon clinigol i fwy o gleifion. At hynny, mae Ymchwil Canser Cymru yn galw am fabwysiadu Dull Cymru’n Un yn llawn, lle y gall ysbytai ar draws Cymru gofrestru cleifion mewn treial clinigol; gweithredwyd hyn yn llwyddiannus yn flaenorol yn astudiaeth SYMPLIFY.
Dros y ddau blog hyn, rydym ni wedi trafod yr anghydraddoldebau sy’n bodoli ar gyfer canser yng Nghymru. O nifer yr achosion i fynediad at ofal iechyd, mae’r problemau yn amlochrog a bydd mynd i’r afael â nhw yn cymryd amser ac adnoddau sylweddol. Fodd bynnag, mae rheswm dros fod yn obeithiol – mae Ymchwil Canser Cymru ac eraill wedi cynnig llu o fesurau sy’n cynnig cyfle i wneud newidiadau cadarnhaol.
Mae adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser yn dwyn ynghyd y dystiolaeth nad yw baich canser yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws Cymru. Gellir crynhoi’r gwir plaen mewn un frawddeg gywilyddus: mae pobl o gymunedau mwy difreintiedig yn fwy tebygol o ddatblygu canser ac yn llai tebygol o’i oroesi. Mae’r sefyllfa hon yn annerbyniol ac mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mynd i’r afael ag anghydraddoldebau canser.