Anghydraddoldebau Canser yng Nghymru
Mae Cymru’n dioddef rhai o’r deilliannau canser gwaethaf yn Ewrop, ond nid yw baich canser yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws Cymru. Yn wir, mae anghydraddoldebau mawr rhwng gwahanol grwpiau o bobl, yn dibynnu ar bwy ydyn nhw, ble maen nhw’n byw a’u sefyllfa ariannol.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ganser ei adroddiad ar anghydraddoldebau canser yng Nghymru, sy’n datgelu’r gwirionedd annerbyniol nad yw’r siawns o gael canser a’r tebygolrwydd o’i oroesi yr un fath i bawb yng Nghymru. Yn y blog dwy ran hwn, byddwn ni’n ymchwilio i rai o ganfyddiadau’r adroddiad a’r meysydd lle mae anghydraddoldebau’n bodoli, ynghyd â thrafod rhai o’r camau yr awgrymodd Ymchwil Canser Cymru i’r Grŵp Trawsbleidiol er mwyn dechrau mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn.
Ar draws Cymru, mae cyfoeth, gwasanaethau a chyfleoedd yn cael eu dosbarthu’n anghyson iawn. Mae hyn yn wir hyd yn oed ar lefel gymharol leol – fel y gellir gweld ar y map uchod, mae ardaloedd o gyfoeth yn aml gerllaw ardaloedd â lefel uchel o ddifreintedd. Dyfynnir enghraifft glir o hyn yn yr adroddiad, lle mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cynnwys tua chwarter o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ond chwarter o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, hefyd.
Mae’r anghysondebau eglur hyn yn cael eu hadlewyrchu, gwaetha’r modd, mewn ystadegau canser, hefyd.
Yn rhyfeddol, mae achosion o ganser bron 20% yn uwch ymhlith pobl o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o gymharu â phobl o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ar draws y 7 bwrdd iechyd gwahanol yng Nghymru, mae amrywiaeth eang, hefyd – yn wir, pe bai nifer yr achosion o ganser yn cyfateb i’r gyfradd isaf (ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda), byddai tua 1300 yn llai o achosion o ganser bob blwyddyn.
o achosion o ganser bob blwyddyn.
Nid dim ond yr ardal lle mae pobl yn byw sy’n effeithio ar nifer yr achosion o ganser, mae’r siawns o oroesi yn amrywio’n sylweddol, hefyd. Mae cyfran y cleifion sy’n goroesi 5 mlynedd ar ôl eu diagnosis 17% yn is (50% o gymharu â 67%) yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r lleiaf difreintiedig, sy’n rhyfeddol, ac mae cyfradd y marwolaethau 55% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, sy’n hynod bryderus. Yn yr un modd â nifer yr achosion o ganser, pe bai cyfradd y marwolaethau oherwydd canser yn y bwrdd iechyd gorau ei berfformiad (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) yn gallu cael ei dyblygu ledled Cymru, byddai tua 600 yn llai o fywydau’n cael eu colli bob blwyddyn.
Mae’r ystadegau uchod yn dangos yr anghydraddoldebau arswydus rhwng ardaloedd â lefelau uchel ac isel o ddifreintedd yng Nghymru o ran canser. Fodd bynnag, mae anghydraddoldebau’n bodoli hefyd rhwng y cymunedau hyn o ran gwasanaethau gofal iechyd a chael at y gofal cywir ar yr adeg gywir. Mae diagnosis cynt yn hanfodol bwysig i wella goroesi yn sgil canser ond, yn aml, nid oes gan ardaloedd difreintiedig yr un mynediad at y gwasanaethau angenrheidiol.
Mae mwyafrif sylweddol o gleifion canser yn ymweld â’u meddyg teulu i ddechrau cyn diagnosis o’u canser, yn dilyn pryderon am eu hiechyd. Felly, mae gan ofal sylfaenol rôl hanfodol i’w chwarae wrth sicrhau y gellir cyfeirio cleifion at y llwybr canser cywir cyn gynted â phosibl. Yn anffodus, nid yw mynediad i wasanaethau gofal sylfaenol yn gyson ar draws Cymru.
Mae’r ffigurau diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod gan feddygfeydd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o Gymru lai o feddygfeydd teulu cwbl gymwys, llai o nyrsys practis a llai o staff gweinyddol, o gymharu ag ardaloedd llai difreintiedig. Mae’r materion hyn yn ei gwneud hi’n anos cael apwyntiadau gofal sylfaenol ac mae’n arwain at oedi cyn bod cleifion yn cael y gofal cywir mewn ardaloedd lle y mae baich canser ar ei uchaf. Mae angen buddsoddi sylweddol i recriwtio a chadw staff gofal sylfaenol mewn ardaloedd difreintiedig i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwn.
At hynny, gall y diffyg staffio a’r pwysau dilynol mewn lleoliadau gofal sylfaenol arwain at ddilyn pobl sy’n ymweld â’u meddyg teulu i fyny yn annigonol, gyda chleifion o ganlyniad yn ‘disgyn trwy’r bylchau’. Creodd prosiect ThinkCancer!, a ariannwyd gan Ymchwil Canser Cymru, weithdy hyfforddiant i staff clinigol ac anghlinigol mewn gofal sylfaenol, gan gynnwys cynhyrchu cynllun ‘rhwyd diogelwch’ pwrpasol i bob practis i wella’r broses o ddilyn cleifion i fyny. Mewn gweithdy peilot, fe wnaeth nifer o bractisau meddygon teulu ddarganfod diffygion yn eu prosesau ‘rhwyd diogelwch’ a rhoddont newidiadau buddiol ar waith yn syth. Mae Ymchwil Canser Cymru yn galw am weithredu proses/polisi rhwyd diogelwch dynodedig ym mhob practis gofal sylfaenol, gyda hyrwyddwr rhwyd diogelwch cwbl hyfforddedig yn cael ei benodi gyda chyfrifoldeb am gyflwyno proses y rhwyd diogelwch.
Yn flaenorol, ariannol Ymchwil Canser Cymru astudiaeth WICKED, a ymchwiliodd i wybodaeth ac agweddau staff gofal sylfaenol ynghylch canser. Darganfu fod hyder meddygon teulu yn eu gallu i adnabod symptomau canser, yn enwedig symptomau amwys amhenodol, yn amrywio’n fawr – fe wnaeth y darganfyddiad nad oedd canllawiau NG12 y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ar gyfer atgyfeiriadau canser yn cael eu defnyddio’n gyson gan feddygon teulu ar draws Cymru ychwanegu at hyn. I wella cysondeb gofal sylfaenol a lleihau gwahaniaethau rhwng practisau, mae Ymchwil Canser Cymru yn galw am ddefnydd cyson o ganllawiau NG12 gan bob meddyg teulu ar draws Cymru, ynghyd â chyflwyno hyfforddiant canser i staff gofal sylfaenol, fel gweithdai ThinkCancer!.
Mae adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser wir yn taflu goleuni ar yr anghysondebau annerbyniol ar draws Cymru o ran y siawns o ddatblygu canser a’r tebygolrwydd o oroesi canser. Er bod y rhesymau wrth wraidd yr anghysondebau hyn yn gymhleth, gellid cymryd camau cymharol syml, fel y rhai y mae Ymchwil Canser Cymru wedi’u hawgrymu, yn y tymor byr i ddechrau ysgogi newid cadarnhaol.
Fodd bynnag, mae mwy i’r pwnc hwn na dim ond ystadegau canser a phryderon gofal sylfaenol. Cadwch lygad allan am ein blog nesaf, lle byddwn ni’n trafod rhai o’r meysydd eraill lle y mae anghydraddoldebau yn bodoli a mesurau eraill i ddechrau mynd i’r afael â’r problemau.