Mae gan oncolegwyr fynediad at amrywiaeth o driniaethau ar gyfer cleifion canser y fron, gan gynnwys chemotherapiau. Yn anffodus, dim ond mewn rhai cleifion y mae rhai triniaethau yn effeithiol ac mae'n anodd iawn i glinigwyr wybod pa gleifion sy'n mynd i elwa o ba gyffuriau. Dylai gallu deall pam mae cleifion yn ymateb yn wahanol ganiatáu i'r cyffuriau mwyaf effeithiol i bob unigolyn gael eu dewis ar unwaith a gallai arwain datblygiad cyffuriau newydd sy'n effeithiol yn y nifer uchaf posibl o bobl.
I'r perwyl hwnnw, mae Ymchwil Canser Cymru yn ariannu ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, dan oruchwyliaeth Dr Chris Staples, sy'n ceisio archwilio'r ffyrdd y mae celloedd canser yn ymateb i driniaethau cyffredin.
Er mwyn i diwmor dyfu, rhaid i gelloedd canser ddyblygu eu DNA ac yna rhannu'n ddwy gell newydd - proses sy'n cael ei hailadrodd nifer fawr o weithiau. Mae llawer o therapïau canser yn gweithio trwy darfu ar gopïo'r DNA, ac hebddo ni all y celloedd canser rannu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dosbarth o gyffuriau o'r enw atalyddion PARP wedi cael eu datblygu - mae'r cyffuriau hyn yn gweithio drwy atal atgyweirio difrod DNA all ddigwydd yn ystod y broses gopïo. Fodd bynnag, mae atalyddion PARP wedi tueddu i fod yn effeithiol mewn rhai cleifion yn unig.
Mae gwaith blaenorol tîm Dr Staple wedi dangos bod presenoldeb neu absenoldeb protein o'r enw MRNIP yn penderfynu pa mor effeithiol yw atalyddion PARP mewn sawl math o ganser, gan gynnwys canser y fron. Yn ddiddorol, canfuwyd hefyd bod y canserau hynny lle roedd atalyddion PARP yn gweithio yn gwrthsefyll Gemcitabine, cyffur cemotherapi a ddefnyddir yn gyffredin.
Mae'r tîm bellach yn cynnal ymchwiliadau manwl i'r prosesau atgyweirio DNA mewn celloedd canser sy'n digwydd cyn ac yn ystod triniaethau gyda gwahanol gyffuriau. Mae'r prosesau hyn yn gymhleth iawn ac yn cynnwys nifer fawr o wahanol broteinau – bydd deall sut mae'r rhyngweithiadau'n arwain at wrthwynebiad i gyffuriau gwahanol yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar pam mae rhai therapïau ond yn gweithio i rai cleifion.