Symud at y prif gynnwys

#MisYmwybyddiaethCanserYFron: Sefyllfa Canser y Fron yng Nghymru

Mis Hydref yw’r Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, pan roddir sylw i’r hyn sy’n dal i fod yn un o’r mathau mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru. Mae’r Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron yn rhoi cyfle i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y fron a phwysigrwydd diagnosis cynnar, ar yr un pryd ag amlygu’r camau breision ymlaen a wnaed diolch i ymchwil

Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym yn ymwybodol iawn o effaith canser y fron. Er ein bod wedi cyflawni llawer ac mae cyfraddau goroesi’n well nag erioed, mae gormod o bobl yn dal i golli eu bywydau i ganser y fron bob blwyddyn. Rydym yn hollol siŵr y bydd ymchwil yn sbarduno mwy o welliannau i gyfraddau goroesi a, chyda chymorth ein cefnogwyr, gallwn sicrhau bod Cymru yn arwain arloesiadau ym maes diagnosis a thriniaeth.

Achosion

Amcangyfrifir y bydd oddeutu 1 o bob 7 o fenywod yn cael diagnosis o ganser y fron yn eu hoes – mae hyn yn gyfystyr â bron 3,000 o achosion bob blwyddyn yng Nghymru, sef oddeutu 20% yn fwy yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.

Dylid cofio bod canser y fron yn gallu effeithio ar ddynion hefyd, a chanfyddir rhwng 15 ac 20 o achosion bob blwyddyn yng Nghymru.

Yn bwysig, gwneir diagnosis o ganser y fron ar gamau cynharach yn aml, pan fydd yn haws ei drin. Yn wir, mae dros 70% o gleifion yn cael diagnosis o Gam I neu II y clefyd a dim ond tua 6% sy’n cael diagnosis o Gam IV. Mae hyn yn dangos effeithiolrwydd tebygol rhaglenni sgrinio ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, sy’n helpu i droi’r fantol tuag at ddiagnosis cynharach.

Yn ddiddorol, mae nifer yr achosion canser y fron ymhlith gwahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol yn dilyn patrwm gwahanol i lawer o fathau eraill o ganser. Mae gan bobl o rannau mwyaf difreintiedig Cymru gyfradd 20% yn is o ganser y fron o gymharu â’r ardaloedd mwyaf cefnog, sy’n groes i’r duedd a welir ar gyfer y rhan fwyaf o ganserau eraill. Mae’r rhesymau dros hyn yn aneglur o hyd.

Goroesi

Diolch i gyfraniad sylweddol ymchwil, mae cyfraddau goroesi canser y fron wedi gwella’n aruthrol yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Mewn gwirionedd, mae tua 90% o gleifion yn goroesi am bum mlynedd neu fwy heddiw, o gymharu â 40% yn unig yn y 1970au.

Mae diagnosis cynnar wedi bod yn allweddol i sbarduno’r gwelliannau hyn, sy’n bwysig iawn i oroesi canser y fron. Mae goroesiad 5 mlynedd ar gyfer canserau’r fron cam cynnar yn rhagorol, gyda 100% o gleifion Cam I a dros 95% o gleifion Cam II yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl diagnosis. Mewn cyferbyniad, mae llai na chwarter cleifion Cam IV yn goroesi pum mlynedd neu fwy, sy’n pwysleisio pa mor bwysig yw canfod canser y fron i brognosis cleifion.

Yn wahanol i nifer yr achosion, mae goroesiad canser y fron yn dilyn y patrwm a welir ar gyfer llawer o fathau eraill o ganserau o ran amddifadedd. Mae goroesiad y cleifion hynny o rannau mwyaf difreintiedig Cymru 10% yn waeth ar ôl 5 mlynedd o gymharu â’r rhai hynny o’r ardaloedd mwyaf cefnog (84 o gymharu â 94%). Mae’r rhesymau dros hyn yn gymhleth ac amrywiol, ond mae’n amlwg bod y sefyllfa hon yn annerbyniol a bod angen mynd i’r afael â hi fel blaenoriaeth.

Sgrinio

Yn ddi-au, mae sgrinio canser y fron yn rheolaidd wedi cyfrannu’n sylweddol at y gwelliant enfawr a welwyd mewn cyfraddau goroesi yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf. Trwy gynnal mamogramau rheolaidd, gellir canfod tiwmorau’n gynharach pan fyddant yn haws eu tynnu ymaith a’u trin. Mae astudiaethau wedi amcangyfrif bod sgrinio’r fron yng Nghymru wedi lleihau marwolaethau o ganser y fron oddeutu 25%, gan achub cannoedd o fywydau.

Yng Nghymru, gwahoddir menywod rhwng 50 a 70 oed i fynychu apwyntiad sgrinio unwaith bob 3 blynedd gan Bron Brawf Cymru. Gall menywod dros 70 oed gymryd rhan mewn sgrinio’r fron hefyd, ond mae’n rhaid iddynt gysylltu â Bron Brawf Cymru yn uniongyrchol i wneud yr apwyntiad.

Atal

Ystyrir bod nifer fawr (tua 30% o bosibl) o ganserau’r fron yn rhai y gellir eu hatal. Mae ymchwil wedi dangos bod canser y fron yn glefyd y gellir ei atal i raddau mwy nag y credwyd yn wreiddiol, a gall newidiadau syml i rai dewisiadau ffordd o fyw leihau’r risg yn sylweddol.

Gellir priodoli oddeutu 1 o bob 10 o achosion canser y fron i alcohol, felly mae cyfyngu ar yfed alcohol yn ffordd syml o leihau’r risg. Gall cynnal pwysau arferol a bwyta’n iach leihau risg canser y fron hefyd, oherwydd dangoswyd bod gordewdra’n gyfrifol am oddeutu 2-3 o achosion fesul 100 o ganser y fron.

Yn yr un modd â llawer o fathau eraill o ganser, bydd ffordd gyffredinol iach o fyw sy’n cynnwys ymarfer corff a deiet amrywiol, maethlon yn helpu i leihau risg datblygu canser y fron gymaint â phosibl.

I grynhoi, canser y fron yw un o’r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru o hyd, ond mae ganddo brognosis mwy ffafriol o lawer heddiw nag yn y gorffennol. Mae mwy o gleifion nag erioed yn goroesi yn y tymor hir, gan gadw teuluoedd gyda’i gilydd. Fodd bynnag, mae gormod o gleifion yn dal i golli eu bywydau bob blwyddyn, yn enwedig y rhai hynny â chanser y fron cam hwyr neu’r mathau mwyaf ffyrnig ohono, felly mae gennym waith i’w wneud o hyd

Cadwch lygad am ein blog nesaf, pan fyddwn yn archwilio rhai o’r prosiectau ymchwil y mae Ymchwil Canser Cymru yn eu hariannu ar hyn o bryd, gyda’r nod o ddarparu opsiynau triniaeth newydd i gleifion a gwella cyfraddau goroesi ymhellach.