Symud at y prif gynnwys

#MisYmwybyddiaethCanserYGwaed: Stori Tom Walker

Y mis Medi hwn, rydym yn lansio ffilm deimladwy ond ysbrydoledig iawn am Tom Walker. Bu farw yn drasig o lewcemia myeloid acíwt yn 13 oed

Roedd Tom Walker yn 13 oed pan gymerodd ran yn Nhaith Gerdded Nos Bannau Brycheiniog ar gyfer Ymchwil Canser Cymru ym mis Mawrth 2018.

Cododd £700, ond dim ond 10 wythnos yn ddiweddarach, cafodd ddiagnosis trasig o lewcemia myeloid acíwt. Yn anffodus, bu farw Tom.

Sefydlodd ei deulu Gronfa Tom er cof amdano i godi arian ar gyfer ymchwil canser yma yng Nghymru. Aeth y £100,000 cyntaf a godwyd i Ysgoloriaeth Ymchwil PhD Tom Walker, i ariannu myfyriwr graddedig sy’n ymchwilio i driniaeth ar gyfer lewcemia myeloid acíwt. Defnyddiwyd arian a godwyd ers hynny i ariannu ymchwil i ganser yr ymennydd.

Ffilm Tom

Mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Gwaed, ac i nodi hyn, rydym yn lansio ffilm deimladwy ond ysbrydoledig iawn am Tom.

Ynddi, mae rhieni Tom – Debbie a Tim – a’i chwiorydd, Holly ac Emily, yn siarad am Tom a’i ddiddordebau fel ffilmiau ffantasi a chwarae’r drymiau.

Maen nhw’n siarad yn agored am y ffordd y mae codi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru wedi’u helpu i gadw etifeddiaeth Tom yn fyw. Hefyd, mae’r teulu yn trafod sut mae codi arian er cof am Tom wedi helpu i uno eu cymuned leol.

Mis Ymwybyddiaeth Canser y Gwaed

Mae Mis Ymwybyddiaeth Canser y Gwaed yn ddigwyddiad byd-eang sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth am un o ganserau mwyaf cyffredin a pheryglus y byd: sef canser y gwaed.

Mae mis Medi’n troi’n goch bob blwyddyn wrth roi sylw pendant ar ganser y gwaed a’r effaith y mae’n ei chael ar ein cymunedau a’r angen dybryd am ragor o weithredu.

Bydd codi ymwybyddiaeth am ganser y gwaed, ei arwyddion a’i symptomau a’i effaith, yn helpu i wella diagnosis cynnar, yn annog llunwyr polisi i flaenoriaethu’r clefyd, ac yn helpu pawb sydd â chanser y gwaed i deimlo’n gysylltiedig a’u bod yn cael eu clywed.

Diolch i Debbie, Tim, Holly ac Emily Walker am eich cefnogaeth barhaus i Ymchwil Canser Cymru.

Byddem wrth ein bodd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith y mae eich cefnogaeth yn ei ganiatau i ni ei wneud. Cofrestrwch i dderbyn e-gylchlythyr Ymchwil Canser Cymru i glywed am ein newyddion diweddaraf, datblygiadau cyffrous gyda'n prosiectau a ffyrdd o gymryd rhan.