ADAM FLETCHER yw Prif Weithredwr newydd elusen ymchwil canser Cymru – Ymchwil Canser Cymru.
Bydd yn bennaeth ar weithrediadau’r sefydliad sydd â’i gartref yng Nghaerdydd – yr unig elusen sy’n ymroi’n gyfan gwbl i ariannu ymchwil canser yng Nghymru.
Ers ei sefydlu ym 1966, mae Ymchwil Canser Cymru wedi buddsoddi dros £30 miliwn mewn prosiectau ymchwil canser yma yng Nghymru.
real ho
Mae Adam yn gyn-bennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) Cymru a bydd yn dechrau yn ei rôl newydd ddydd Llun, 1 Gorffennaf.
“Braint enfawr yw ymgymryd â rôl Prif Weithredwr Ymchwil Canser Cymru”, meddai Adam Fletcher ac ychwanegodd “Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r holl bobl sy’n codi arian a’r holl roddwyr a gwirfoddolwyr ar draws Cymru, a datblygu partneriaethau newydd i sicrhau bod Ymchwil Canser Cymru’n gallu parhau i ariannu’r gwyddonwyr gorau ac arbed rhagor o fywydau.
“Mae’n amser cyffrous, gyda dulliau newydd o ganfod cynnar a thrin yn cael eu datblygu a’u profi ledled Cymru, ac mae’n hanfodol nad oes oedi mewn cynnydd nawr.
“Mae canser wedi effeithio ar fy nheulu fy hun ac rwy’n gwybod pa mor bryderus ydyw i bobl yn dilyn diagnosis. Fy uchelgais yw bod Cymru yn arweinydd byd-eang ymchwil canser, gyda GIG Cymru yn arloesi gwasanaethau newydd.”
Yn flaenorol, mae Adam wedi gweithio fel ymchwilydd iechyd cyhoeddus, darlithydd a rheolwr canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd, roedd Adam yn ddarlithydd yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain am saith blynedd.
Wrth groesawu Adam i’w swydd newydd, dywedodd Gavin Moore – Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Ymchwil Canser Cymru:
“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi mai Adam Fletcher yw Prif Weithredwr newydd Ymchwil Canser Cymru.
“Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr a minnau’n edrych ymlaen at weithio gydag Adam i arwain yr elusen trwy ei chyfnod cyffrous nesaf o dwf a datblygu ein nod allweddol, sef cefnogi ymchwil canser o’r radd flaenaf yng Nghymru.”
Mae Adam yn byw yng Nghaerdydd gyda’i bartner, Lisa, a’u hefeilliaid, Alfie a Jack.
Yn ei amser hamdden, mae Adam, sy’n frwd dros chwaraeon, yn hyfforddwr criced iau yng Nghlwb Criced yr Eglwys Newydd a’r Mynydd Bychan, ac mae’n hyfforddwr pêl-droed iau i Maindy Corries FC.