MAE pum prosiect arloesol i ymchwilio i driniaethau mwy effeithiol ar gyfer canser wedi derbyn bron i hanner miliwn o bunnoedd gan Ymchwil Canser Cymru.
Ymchwil Canser Cymru yn ariannu myfyrwyr PhD i wneud y gwaith ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd.
Mae'n rhan o ymrwymiad Ymchwil Canser Cymru i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ac adeiladu amgylchedd ymchwil ffyniannus yng Nghymru.
Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn £99,081 ar gyfer prosiect sy'n ymchwilio i sut y gall bacteria perfedd effeithio ar driniaeth cemotherapi ar gyfer canser y coluddyn. Dan arweiniad Dr Paul Facey, bydd yr ymchwil yn ceisio cael dealltwriaeth gliriach o ba facteria all leihau effeithiolrwydd cemotherapi a sut maen nhw'n ei wneud.
Dyranwyd £100,00 i Brifysgol Bangor i ymchwilio i ffyrdd o dargedu'r protein MRE11, sy'n helpu canserau i oroesi a thyfu. Bydd y prosiect hwn, dan arweiniad Dr Edgar Hartsuiker, yn datblygu cyffuriau newydd sy'n rhwystro gweithgaredd y protein MRE11 a gellir eu defnyddio i drin ystod o ganserau.
Rhoddwyd £263,571 i Brifysgol Caerdydd i ariannu tri phrosiect:
· Mae Dr Oommen Oommen yn arwain prosiect £100,000 i greu model o ganser y prostad sy'n dynwared cyflyrau'r claf. Bydd y model hwn yn galluogi gwyddonwyr i astudio sut mae celloedd nad ydynt yn ganseraidd sy'n amgylchynu'r tiwmor yn chwarae rhan wrth ysgogi datblygiad y canser a’i allu i wrthsefyll therapi.
· Mae Dr Youcef Mehellou yn arwain prosiect gwerth £99,733 sy'n datblygu cyffuriau newydd i dargedu'r protein STAT3. Mae STAT3 yn gysylltiedig â'r math mwyaf ymosodol o ganser y fron sy'n arwain at 40% o'r holl farwolaethau canser y fron.
· Mae Dr Lee Parry yn rheoli prosiect gwerth £63,838, a ariennir ar y cyd gan Chanolfan Ymchwil Canser Cymru, i greu sef bacteria i dargedu celloedd canser a chaniatau cyffuriau i gyrraedd y tiwmor yn uniongyrchol.
Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru:
"Llongyfarchiadau i'n holl wyddonwyr sydd newydd gael eu hariannu gennym - mae eu prosiectau'n gwthio ffiniau ymchwil yma yng Nghymru. Mae’n fraint i fod yn y sefyllfa i gefnogi prifysgolion yng Nghymru i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ymchwil canser.
"Ymchwil Canser Cymru yw'r unig elusen sy'n gwbl ymroddedig i ariannu ymchwil newydd i ganser yng Nghymru ac mae ariannu ysgoloriaethau PhD yn elfen bwysig o'n strategaeth ymchwil.
"Mae ein holl gyllid ymchwil yn cael ei wario yma yng Nghymru. Mae'r cymorth hanfodol a ddarparwn yn helpu i gynnal ymchwil mewn prifysgolion ledled y wlad a hwyluso datblygiad y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr clinigol a labordy. Rydym yn gobeithio y bydd ein cefnogaeth yn eu galluogi i ddod yn arweinwyr byd-eang nesaf ym maes ymchwil i ganser."