Dyfarnu £1 filiwn i saith prosiect ymchwil i diwmorau’r ymennydd
Y dyfarniad cyllid cyntaf gan Fenter Ymchwil i Diwmorau’r Ymennydd Ymchwil Canser Cymru

Dyfarnwyd dros £1 filiwn o gyllid i saith prosiect arloesol er mwyn cynnal ymchwil i diwmorau’r ymennydd yng Nghymru a dod o hyd i driniaethau gwell ar eu cyfer.
Nod BATRI, a lansiwyd ym mis Ebrill 2024, yw sefydlu bod Cymru’n flaenllaw yn fyd-eang mewn ymchwil i diwmorau’r ymennydd
Hefyd, bydd ymchwil wedi’i hariannu gan BATRI yn dwyn gobaith i bobl sy’n byw gyda thiwmorau’r ymennydd a’u hanwyliaid ledled y wlad.
Dod o hyd i driniaethau newydd, mwy caredig
Meddai Dr Lee Campbell - Pennaeth Ymchwil yn Ymchwil Canser Cymru
“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi cylch cyntaf cyllid BATRI gan Ymchwil Canser Cymru. Yn ôl adroddiadau, bu cynnydd o 39% yn nifer yr achosion o diwmorau sylfaenol yr ymennydd yn y DU ers y 1990au, gyda mwy na 600 o’r rhain yn digwydd yng Nghymru bob blwyddyn. Yn wahanol i lawer o fathau eraill o ganser, bach iawn o welliant fu yng nghyfraddau goroesi hirdymor tiwmorau’r ymennydd dros y 30 mlynedd diwethaf, gyda llai na 15% o gleifion yn goroesi 10 mlynedd neu fwy ar hyn o bryd.
“Er bod canlyniadau gwell gan diwmorau sylfaenol yr ymennydd yn ystod plentyndod, mae effaith niweidiol triniaethau presennol yn golygu bod y plant hyn yn aml yn cael trafferth byw bywyd cwbl annibynnol fel oedolion. Gwaetha’r modd, prin iawn iawn yw’r opsiynau triniaeth newydd a gyflwynwyd dros y degawdau diwethaf. Ein nod gyda BATRi yw darganfod strategaethau triniaeth newydd, mwy caredig, nid yn unig i wella cyfraddau goroesi ond, yn hollbwysig hefyd, i leihau sgil-effeithiau hirdymor ac amhariad gwybyddol i sicrhau bod cleifion yn gallu mwynhau bywyd o ansawdd da.”
Sganiau MRI
Ymhlith y prosiectau sy’n cael cyllid heddiw yw un prosiect sy’n astudio’r defnydd o sganiau MRI datblygedig ar gyfer plant 8-16 oed sydd newydd gael diagnosis o glioma gradd isel – math o diwmor ar yr ymennydd.
Yn goruchwylio’r prosiect fydd yr oncolegydd pediatrig, Dr Madeleine Adams, sy’n gweithio yn Ysbyty Arch Noa Plant Cymru yng Nghaerdydd, a’r Athro Derek Jones o Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).
Yn y prosiect hwn, bydd y sganiwr MRI datblygedig yn CUBRIC – un o bedwar yn unig yn y byd – yn edrych ar strwythur y tiwmor yn fanylach nag y gellir ei weld ar sganiau safonol ar hyn o bryd.
Iachau rhagor o diwmorau’r ymennydd a lleihau sgil-effeithiau
Meddai Dr Madeleine Adams, o Ysbyty Arch Noa Plant Cymru:
“Mae tua 150 o blant y flwyddyn yn y DU yn cael diagnosis o glioma gradd isel, gydag oddeutu 6-10 o’r rhain yn byw yng Nghymru. Mae ar lawer ohonynt angen triniaethau fel cemotherapi ynghyd â llawdriniaeth ac mae angen gofal dilynol hirdymor ar bob plentyn. Yn Ysbyty Arch Noa Plant Cymru, mae tua 100 o blant â glioma gradd isel sy’n cael triniaeth neu sy’n cael gofal dilynol. Mae gan lawer o’r plant hyn sgil-effeithiau sylweddol, fel colli’r golwg, trafferthion symudedd ac anghydbwysedd hormonaidd.
“Bydd y sganiwr MRI datblygedig y bwriedir ei ddefnyddio yn y prosiect hwn yn edrych ar strwythur y tiwmor yn fanylach na sganiau arferol. Rydym yn disgwyl y bydd y manylder ychwanegol hwn yn ein helpu i ddeall pam mae rhai tiwmorau’n ymddwyn yn fwy ffyrnig a phennu triniaethau yn fwy cywir, gyda’r nod yn y pen draw y gall mwy o diwmorau’r ymennydd gael eu hiachau yn y dyfodol ac y gellir gwella ansawdd bywyd hirdymor.”
Mae BATRI hefyd yn ariannu 6 phrosiect arall, gan gwmpasu amrywiaeth eang o bynciau ymchwil.
Mae’r rhain yn cynnwys datblygu triniaethau newydd, gan wella ein dealltwriaeth o sut mae’r system imiwnedd yn brwydro tiwmorau’r ymennydd ac asesu’r ffactorau pwysicaf wrth fynd i’r afael ag anghenion gofal cleifion tiwmorau’r ymennydd.