Polisi Preifatrwydd
Mae Ymchwil Canser Cymru yn ymrwymo i amddiffyn eich gwybodaeth bersonol a bod yn dryloyw am sut rydym ni’n ei chadw a’i defnyddio. Ein nod yw bod yn glir, pan fyddwn ni’n casglu eich gwybodaeth, am ba ddiben y byddwn ni’n ei defnyddio, defnyddio’ch gwybodaeth yn unol â chyfreithiau diogelu data, a pheidio â gwneud dim na fyddech yn ei ddisgwyl yn rhesymol. Mae parchu’ch hawliau a’ch preifatrwydd yn ganolog i’n Haddewid i Gefnogwyr.
Mae’r polisi hwn yn esbonio sut a pham rydym ni’n casglu, yn storio ac yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu â ni. Mae’n berthnasol i chi os ydych chi’n gefnogwr, yn gwsmer adwerthu, yn wirfoddolwr, yn ymchwilydd, yn weithiwr, neu os ydych chi’n ymweld â’n gwefan, yn e-bostio, yn ein ffonio neu yn ysgrifennu atom ni.
Ni fyddwn fyth yn gwerthu, yn rhentu nac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â sefydliadau eraill er mwyn iddynt ei defnyddio at eu dibenion marchnata nhw, a byddwn ond yn ei rhannu o dan amgylchiadau priodol, cyfreithiol neu eithriadol.
Gallem wneud newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd i sicrhau ei fod mor gyfredol â phosibl a’i fod yn adlewyrchu unrhyw ofynion cyfreithiol newydd. Ymwelwch â’r dudalen hon i gael gwybod am unrhyw newidiadau. Os gwnawn unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r ffordd rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn datgan hynny’n glir gyda hysbysiad amlwg ar ein gwefan neu trwy gysylltu â chi’n uniongyrchol.
Diweddarwyd y polisi hwn ddiwethaf ar 19 Ionawr 2023