Symud at y prif gynnwys

Polisi Cwynion

Yma yn Ymchwil Canser Cymru, rydym ni’n ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i’n cefnogwyr. Os nad ydych yn fodlon â lefel y gwasanaeth a gewch gennym ni, rhowch wybod i ni. Rydym bob amser yn gwerthfawrogi clywed gan ein cefnogwyr – rydym ni’n addo y cewch chi ymateb cyfeillgar ac agored os byddwch yn cysylltu â ni. Os byddwn yn gwneud rywbeth o’i le, hoffem wybod am hynny, delio ag ef yn amserol a dysgu ohono i’w atal rhag digwydd eto.

• Byddwn bob amser yn gwrtais, yn barchus, a byddwn yn gwrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud
• Byddwn yn sicrhau ein bod yn cydnabod pob cwyn yn brydlon
• Byddwn yn delio â phob cwyn yn sensitif, yn dryloyw, ac ar fyrder

Mae ein Polisi Pryderon a Chwynion i’w weld isod.