Cynorthwyydd Siop
Mae swyddi gwirfoddoli ar gael yn ein holl siopau. Drwy wirfoddoli i ni, gallwch chi helpu i greu dyfodol gwell i gleifion canser yng Nghymru.
Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i weithio yn ein siopau. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn un tîm mawr, ond gydag amser i bawb. Gobeithiwn y bydd ein cysylltiad personol yn gwneud gwirfoddoli yn arbennig iawn.
Drwy ddewis gwirfoddoli i Ymchwil Canser Cymru, byddwch yn chwarae rhan yn uno Cymru yn erbyn canser. Bydd eich cefnogaeth yn helpu i wneud gwahaniaeth enfawr i filoedd o bobl bob dydd trwy ein helpu i godi arian tuag at ymchwil o safon fyd-eang.
Beth mae'r rôl yn ei gynnwys?
Mae pob math o bethau y gallwch chi eu gwneud i gymryd rhan yn ein siopau naill ai yn gweithio y tu ôl i'r llenni neu'n cysylltu â'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys:
- Gweithio ar y tiliau
- Rheoli stoc
- Cyfathrebu â chwsmeriaid
- Didoli a threfnu rhoddion
- Marchnata gweledol neu greu arddangosfeydd ffenestr (dymunol ond nid yn hanfodol)
Faint o amser sydd angen i mi ei roi?
Rydyn ni'n hoffi bod yn hyblyg gyda'n gwirfoddolwyr. Byddai'r rôl hon yn fwyaf addas i rywun sy'n gallu ymrwymo i o leiaf un diwrnod yr wythnos; fodd bynnag, gallwn fod yn hyblyg ar ddiwrnodau neu oriau wedi’u rhannu ar draws ychydig ddyddiau os yw’n well gennych – mae digon o gyfleoedd i wirfoddoli cyn lleied â 2 i 4 awr yr wythnos.
Beth arall sydd angen i mi ei wybod?
Rydym yn croesawu pawb i'r tîm, ac mae ein tîm yn trin eu holl gydweithwyr, cwsmeriaid a rhoddwyr â pharch a charedigrwydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, rhowch wybod i ni.