Her Tri Chopa Cymru 2025

Sign up for this event
Math o ddigwyddiad
Taith gerdded
Dyddiad
Mehefin 13 - 15 2025
Cofrestru
£25
Lleiafswm nawdd
£500
Hoffech chi ymuno â #TîmYCC a derbyn Her 3 Chopa Cymru? Byddwch chi’n dringo tri mynydd uchaf Cymru: Yr Wyddfa (1085m), Cadair Idris (893m) a Phen y Fan (886m), y cyfan oll wrth godi arian ar gyfer ymchwil canser o’r radd flaenaf yng Nghymru, i Gymru.
Bydd y digwyddiad pwrpasol hwn i Ymchwil Canser Cymru yn fuddiol tu hwnt ac yn ffordd wych o weld y tri chopa uchaf a’r gwahanol fynyddoedd yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad hwn, sy’n ddigwyddiad tîm, yn dechrau gyda bws yn casglu pawb dydd Gwener, 13 Mehefin, yng Nghaerdydd, a bydd yn teithio ar draws Cymru i Barc Cenedlaethol Eryri. Yma, byddwn yn setlo yn llety’r grŵp, sef byncws o safon ger yr Wyddfa, yn mwynhau pryd o fwyd fel tîm ac yn gwrando ar arweinwyr ein digwyddiad, JT Expeditions, yn rhoi briff i ni ar y digwyddiad, cyn cael noson gynnar.
Fore dydd Sadwrn, byddwn yn dechrau’r her, gan fwynhau golygfeydd anhygoel ar y ffordd, cyn gorffen yn y tywyllwch ar fynydd ysblennydd Pen y Fan a mynd ar y bws yn ôl i Gaerdydd, lle dechreuodd y cyfan!

Mae’r canlynol wedi’i gynnwys:
- Yr holl deithio ar gyfer y penwythnos ar fws moethus o Gaerdydd.
- Llety nos Wener yn Eryri (byncws grŵp).
- Arweinwyr sydd wedi cymhwyso’n Arweinwyr Mynydd am y penwythnos.
- Rheolwr cyffredinol i’r digwyddiad a phrif bwynt cyswllt ar gyfer y penwythnos o YCC.
- Byrbrydau, dŵr a diodydd poeth ar gyfer y penwythnos.
- Brecwast fore Sadwrn cyn i’r her ddechrau.
Nid yw’n cynnwys:
- Swper nos Wener.
- Unrhyw fwyd ychwanegol (prydau a diodydd mewn gorsafoedd petrol).
- Teithio o’ch cartref i’r man codi/gollwng yng Nghaerdydd ac ohono.
- Dillad a chyfarpar personol.

Sut ydw i’n cofrestru?
£25 yw’r ffi gofrestru gychwynnol ac mae hynny’n gwarantu eich lle yn swyddogol ar y daith. Mae’n rhaid codi o leiaf £500 o nawdd. Yn fuan ar ôl cofrestru, cewch becyn codi arian a chyswllt uniongyrchol yma yn Ymchwil Canser Cymru, a fydd yn eich cefnogi bob cam o’r daith i gyrraedd eich targed codi arian.
Mewn ymchwil y mae’r ateb i newid canser. A phan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd, gallwn newid y naratif o ran beth mae diagnosis canser yn ei olygu heddiw a rhoi gobaith i’r genhedlaeth nesaf o gleifion canser, i’n plant ac i Gymru.

