Symud at y prif gynnwys
  • Ymwybyddiaeth
  • Cyfleoedd codi arian

20 September 2024

Dangosa dy Streips hefo Ymchwil Canser Cymru

Sign up for this event

Rhoddwch ar gyfer Dangosa dy Streips

Rhoi

Math o ddigwyddiad

Ymwybyddiaeth

Dyddiad

20 Medi 2024

Ar 20 Medi, gwisgwch rywbeth streipiog a rhowch rodd awgrymedig o £1 i Ymchwil Canser Cymru - yr elusen ymchwil canser Gymreig

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi gwario mwy na £30 miliwn yn ariannu’r ymchwilwyr, clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol gorau i wthio ffiniau darganfyddiadau ymchwil canser yma yng Nghymru.

Helpwch ni i uno Cymru yn erbyn canser.

Dangosa dy Streips yn y gwaith, yr Ysgol, gyda ffrindiau a theulu:

  • Cofrestrwch eich manylion isod
  • Mae Dangosa dy Streips yn digwydd ar 20 Medi, ond gallwch bennu dyddiad ar gyfer eich gweithgaredd sy'n gweddu orau i chi rhwng 14 a 22 Medi.
  • Sefydlwch eich tudalen codi arian neu wneud rhodd.
  • Rhannwch eich tudalen JustGiving ac unrhyw ddigwyddiadau rydych chi wedi'u cynllunio.
  • Sefydlwch eich tudalen godi arian neu wneud rhodd.
  • Cyfryngau cymdeithasol. Cymerwch LWYTH o luniau Dangosa dy Streips a thagio Ymchwil Canser Cymru gyda @Cancer_Wales a defnyddio #StripeAPose / #DangosaDyStreips

Yn brin o ysbrydoliaeth? Dyma rai syniadau:

  • Trefnwch ddigwyddiad Dangosa dy Streips yn y gwaith, yr ysgol neu gartref.
  • Recriwtiwch gynorthwywyr a gwahoddwch eraill i gymryd rhan - mae Dangosa dy Streips ar gyfer pawb.
  • Hysbysebwch eich digwyddiad - rhannwch eich tudalen JustGiving ac unrhyw ddigwyddiadau rydych wedi'u cynllunio.
  • Caeliwch hwyl gyda streipiau - sanau, siwmperi, hetiau, sgarffiau, cacennau cwpan.

Cofrestrwch ar gyfer Dangosa dy Streips:

Keeping in touch

Mae eich cefnogaeth yn bwysig, a byddem wrth ein bodd yn cadw mewn cysylltiad â chi am ein hymchwil a ffyrdd eraill y gallwch helpu i wneud gwahaniaeth i bobl y mae canser yn effeithio arnynt yng Nghymru, gan gynnwys ymgyrchu, codi arian a gwirfoddoli. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad drwy'r post bob hyn a hyn oni bai eich bod yn gofyn i ni beidio â gwneud hynny drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Rhowch wybod i ni os ydych hefyd yn hapus i glywed gennym drwy e-bost a dros y ffôn:

Gallwch optio allan ar unrhyw adeg, felly os byddwch yn newid eich meddwl am glywed gennym ni, neu sut rydym yn cysylltu â chi, ffoniwch ni ar 02921 855050 neu anfonwch e-bost atom yn contact-us@cancerresearchwales.org.uk

Rydym yn addo cadw'ch manylion yn ddiogel ac ni fyddwn byth yn eu gwerthu i unrhyw drydydd parti. Gall eich gwybodaeth gael ei phrosesu ar ein rhan gan gyflenwyr a ddewiswyd yn ofalus. Gweler ein Polisi Preifatrwydd i gael gwybod mwy am eich hawliau, a sut rydym yn rheoli, defnyddio a gofalu am eich gwybodaeth bersonol.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi