Nenblymiwch gyda ni!
Sign up for this event
Book your place today
YmunoMath o ddigwyddiad
Adrenalin
Blaendal cofrestru
£70
Isafswm nawdd
£395
Awydd neidio allan o awyren arnoch chi? Dyma’ch cyfle chi i wneud hynny, gan helpu i drawsnewid bywyd pobl sy’n byw gyda chanser ledled Cymru.
Nid yn unig y byddwch chi’n disgyn yn rhydd o uchder o 12,000 troedfedd am 120 milltir yr awr, byddwch chi hefyd yn cefnogi ein prosiectau ymchwil o’r radd flaenaf, sy’n rhoi gobaith i bobl ledled Cymru am ddyfodol gwell.
Bydd angen i bob cyfranogwr ymrwymo i godi isafswm o £395 mewn nawdd. Yn fuan ar ôl cofrestru, cewch becyn codi arian a chyswllt uniongyrchol yma yn Ymchwil Canser Cymru a fydd yn eich cefnogi bob cam o’r daith gyffrous hon. Bydd yr arian a godir yn ein helpu i ddod gam ymhellach at ein gweledigaeth, sef Cymru yn unedig yn erbyn canser, trwy ymchwil o’r radd flaenaf.
Pryd alla’ i wneud hyn?
Gallwch drefnu unrhyw ddyddiad sy’n addas i chi (cyn belled ag y bydd ar gael), ac mae pob croeso i chi drefnu mewn grŵp.
Sut beth ydyw?
Dychmygwch sefyll ar ymyl drws agored mewn awyren sy’n hedfan ar uchder o 12,000 troedfedd - sŵn yr injans a’r gwynt yn canu yn eich clustiau, gydag ond amlinelliad o gaeau pell i’w gweld islaw. Nawr, dychmygwch bwyso ymlaen allan o’r drws hwnnw a gadael fynd - disgyn ymlaen i’r cymylau, plymio trwy’r aer wrth i chi ddechrau disgyn yn rhydd ar dros 12 milltir yr awr! Yna, dychmygwch yr heddwch wrth i’r canopi agor, wrth i’r toglau llywio ddod i lawr naill ochr ohonoch, yna rydych chi’n dechrau’r cwymp tawel â pharasiwt o filltir i fyny yn yr aer, gan lywio’ch hun yn ôl i lawr i ganol y parth disgyn isod. Rhowch y gorau i ddychmygu, mae’n digwydd a gallwch chi fod yn rhan ohono…
Beth mae’r naid yn ei gynnwys?
Yn dechnegol, ‘Skydive tandem’ yw’r enw ar y naid. Mae’n Skydive oherwydd byddwch chi’n disgyn yn rhydd drwy’r aer (heb agor y parasiwt) am sawl mil o droedfeddi; mae’n digwydd mewn tandem oherwydd byddwch wedi’ch harneisio wrth gyfarwyddwr parasiwt proffesiynol drwy gydol y disgyniad (gweler y ffotograff uchod). Dyma’r unig ffordd y gallwch neidio o gymaint o uchder heb wario miloedd o bunnoedd ar ddod yn barasiwtydd disgyn yn rhydd. Cyfle unwaith mewn oes, heb os!
Pethau i’w cofio:
- Mae ein holl wariant ar ymchwil canser yn cael ei wario yma i ariannu ymchwil hanfodol yng Nghymru.
- Mae’r hyfforddiant a’r naid yn cael eu gwneud mewn diwrnod.
- Byddwch wedi’ch harneisio wrth gyfarwyddwr parasiwtio profiadol drwy’r amser.
- Byddwch yn neidio o o leiaf 10,000 troedfedd – yn union fel parasiwtwyr proffesiynol.
- Disgyn yn rhydd hyd at 5,000 troedfedd – disgyn drwy’r aer ar 120 milltir yr awr!
- Reidio’r parasiwt i lawr i’r ddaear – dangosir i chi sut i lywio i’r parth disgyn.
- Eich hyfforddwr fydd yn rheoli’r glanio.
- Tystysgrif i brofi eich bod chi wedi cwblhau Skydive tandem ‘dwy filltir’!
I wneud Skydive tandem, mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed o leiaf a bod o dan yr uchafswm pwysau. Sylwch fod gan rai canolfannau gyfyngiadau pwysau is – cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm mewn cysylltiad.