Marathons Rhyngwladol
Sign up for this event
Math o ddigwyddiad
Marathon
Efrog Newydd. Tokyo. Chicago.
Ydych chi wedi bod awydd ymgymryd â Marathon unwaith mewn oes?
Mae Ymchwil Canser Cymru wrth ein bodd yn cael gweithio gyda Sports Tours International, sydd wedi bod yn mynd â rhedwyr a beicwyr i’r digwyddiadau torfol mwyaf yn y byd ers 50 mlynedd.
Ymunwch â #TîmYCC a chefnogi Ymchwil Canser Cymru yn rhyngwladol
Ni yw’r unig elusen sy’n ymroi’n gyfan gwbl i ariannu ymchwil canser yng Nghymru, i Gymru.
Mae amrywiaeth o becynnau ar gael a bydd Sports Tours International yn gweithio gyda chi ar yr her anhygoel hon.
Byddwn ni yn Ymchwil Canser Cymru yn edrych ar y targed codi arian gyda chi ar ôl i chi ddewis eich digwyddiad.
Yn fuan ar ôl cofrestru, cewch gyswllt pwrpasol a fydd yn eich cefnogi bob cam o’r daith gyffrous hon.
Bydd eich lle yn y ras hefyd yn cynnwys:
- Pecyn codi arian pwrpasol
- Diweddariadau rhedeg rheolaidd
- Cefnogaeth gan ein grŵp rhedeg #TîmYCC ar Facebook
- Gwybodaeth am brosiectau ymchwil diweddaraf Ymchwil Canser Cymru
- Crys T rhedeg Ymchwil Canser Cymru (pan fyddwch wedi cyrraedd 50% o’ch targed codi arian)