Symud at y prif gynnwys
  • Cystadleuaeth

1 February - 31 March

Ffasiwn wedi ei ail-ddychmygu

Math o ddigwyddiad

Cystadleuaeth

Dyddiad y Digwyddiad

1 Chwefror a 30 Ebrill 2025

Mae Ymchwil Canser Cymru yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn cynnal ein hail gystadleuaeth dylunio ffasiwn gynaliadwy a gynhelir rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill 2025.

Yr her

Rydym yn eich herio i ddylunio gwisg couture ffasiwn gan ddefnyddio dillad a deunyddiau sydd wedi'u caru ymlaen llaw yn unig.

Gyda'r thema ddylunio 'Dangosa dy Streips', rydym am i chi anadlu bywyd newydd i hen ddillad mewn modd moesegol a chynaliadwy.

Bydd y dyluniadau buddugol yn cael eu harddangos yn ein digwyddiad Ffasiwn Cynaliadwy Ymchwil Canser Cymru yn 2025 ac ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r gystadleuaeth hon ar gyfer myfyrwyr 16+ oed mewn addysg amser llawn/rhan amser yng Nghymru, ac unrhyw un 16+ oed sy'n byw / gweithio yng Nghymru.

Sut i gystadlu

Lawrlwythwch y briff dylunio isod. Bydd y dyluniadau buddugol yn cael eu harddangos yn ein digwyddiad Ffasiwn Cynaliadwy Ymchwil Canser Cymru yn 2025.

Meini prawf ar gyfer dyluniadau llwyddianus

Rydym yn chwilio am ddyluniadau creadigol ac effeithiol sy'n ymgorffori streipiau.

Mae cofrestru am ddim, ond os hoffech gefnogi cronfa elusen Ymchwil Canser Cymru, yna byddem yn gwerthfawrogi eich rhodd yn fawr.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi