Symud at y prif gynnwys
  • Ras

5 October 2025

Hanner Marathon Caerdydd 2025

Sign up for this event

Ymunwch â #TîmYCC

£10 + £300 o nawdd

Lle elusennol TîmYCC

I have my own place

Free

Ymuno

Math o ddigwyddiad

Ras

Dyddiad y Digwyddiad

5 Hydref 2025

Cofrestru am le elusennol

£10 + £300 o nawdd

Mae ein lleoedd elusennol ar gyfer 2025 wedi'u gwerthu allan erbyn hyn. Os hoffech ymuno â'n rhestr aros rhag ofn y bydd lle elusennol ar gael, anfonwch eich manylion atom drwy ein tudalen gyswllt.

Rydym wrth ein bodd ein bod yn bartner cyswllt ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2025 y Principality, gan helpu i drawsnewid bywyd pobl sy’n byw gyda chanser yng Nghymru. Mae Hanner Marathon Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi tyfu’n un o’r rasys ffordd mwyaf, a mwyaf cyffrous, yn y Deyrnas Unedig, gyda thros 27,500 o redwyr cofrestredig.

Bydd y cwrs gwastad, cyflym, yn dychwelyd ar 5 Hydref 2025, gan fynd heibio holl olygfeydd trawiadol a thirnodau eiconig y ddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm y Principality, ac ysblander Bae Caerdydd. Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen ar gyfer pob canser, ac rydym yn ymrwymo i newid ystyr diagnosis canser, fel ei bod yn haws gwneud diagnosis o ganser, ei drin a’i iachau.

Bydd eich cymorth yn helpu i ddwyn triniaethau gwell yn nes i gartref cleifion ledled Cymru. Ymunwch â #TîmYCC heddiw a helpu newid y dyfodol i gleifion canser Cymru yfory. Byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd.

Bydd angen i bawb sy’n cymryd rhan ymrwymo i godi o leiaf £300 o nawdd ar gyfer y digwyddiad hwn. Yn fuan ar ôl cofrestru, cewch gyswllt pwrpasol yma yn Ymchwil Canser Cymru i’ch cefnogi bob cam o’r daith gyffrous hon.


Bydd mynediad i’r ras hefyd yn cynnwys:

  • Pecyn codi arian pwrpasol
  • Diweddariadau rheolaidd am y digwyddiad
  • Cefnogaeth gan ein Grŵp Facebook, Clwb Rhedeg #TîmYCC
  • Gwybodaeth am Ymchwil Canser Cymru a’n prosiectau ymchwil diweddaraf
  • Crys T rhedeg Ymchwil Canser Cymru (pan fyddwch wedi cyrraedd £50 o’ch targed codi arian)
  • Cyfleu i greu dyfodol mwy disglair i gleifion canser yng Nghymru, a’u teuluoedd

Trwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn gydag Ymchwil Canser Cymru, rydych yn cytuno i Delerau ac Amodau Cyfranogwyr, ac yn cytuno i rannu eich data gyda threfnwyr y digwyddiad a’u partneriaid.

Os oes gennych eich lle eich hun eisoes yn y ras, byddem yn falch iawn o'ch cael chi i redeg gyda'n tîm a helpu i godi arian ar gyfer ein hymchwil yng Nghymru.

Mae gennym 50 o leoedd am ddim ar gyfer y rhai bach yn y digwyddiadau canlynol: Rhedeg Hwyl i'r Teulu, Ras Plant Bach, Herwyr y Dyfodol.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi