Symud at y prif gynnwys
  • Cystadleuaeth

12 July - 13 July

Black Diamond Yr Wyddfa | Snowdon24 2025

Sign up for this event

I have my own place

Free

Cysylltu â ni

Math o ddigwyddiad

Cystadleuaeth

Dyddiad y Digwyddiad

12 - 13 Gorffennaf 2025

Nawdd lleiaf

£500

Helpwch ni i uno Cymru yn erbyn canser ac ymuno â #TîmYCC ar gyfer y ras llwybr ultra - Black Diamond Yr Wyddfa | Snowdonia 24 2025.

Yr Wyddfa yw'r mynydd uchaf ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a hefyd Cymru gyfan a Lloegr. Mae'n sefyll yn 1,085m o daldra (3,560 troedfedd) uwchben tirwedd drawiadol iawn.

Gan ddechrau a gorffen wrth droed y mynydd eiconig hwn, byddwch yn cael eich herio fel unigolyn, neu'n rhan o tîm cyfnewid (hyd at 5), i ddringo a dod i lawr yr Wyddfa gymaint o weithiau â phosibl mewn 24 awr.
Yr isafswm nawdd sydd ei angen yw £500.

Ar ôl cofrestru byddwch yn derbyn pecyn codi arian, a chyswllt uniongyrchol ar gyfer aelod o dîm Ymchwil Canser Cymru. Bydd top rhedeg yn cael ei anfon unwaith y byddwch yn codi'ch £50 cyntaf.

Ymchwil Canser Cymru yw elusen ymchwil canser Cymru ac mae 100% o'n cyllid ymchwil yn cael ei wario yma yng Nghymru. Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwyliaid i ganser. Mae ein hymchwil yn darparu gobaith i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser heddiw a bydd yn trawsnewid y dyfodol i gleifion yfory.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi