Symud at y prif gynnwys
  • Ras

15 June

10K Ynys y Barri

Sign up for this event

Ymunwch â TîmYCC

£10 + £120 o nawdd

Lle elusennol TîmYCC

I have my own place

Free

Cysylltu â ni

Math o ddigwyddiad

Ras

Dyddiad y Digwyddiad

15 Mehefin 2025

Isafswm Ffi

£10 + £120 o nawdd

Mae Ymchwil Canser Cymru yn hynod gyffrous i fod yn brif bartner elusennol ar gyfer 10K Ynys y Barri.

Fel unig elusen ymchwil canser annibynnol Cymru, mae ein holl gyllid ar gyfer ymchwil canser yn cael ei wario ar ymchwil holl bwysig yma yng Nghymru.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Run4Wales ar y digwyddiad hwyliog hwn sy’n addas i deuluoedd, byddwn yn cysylltu â phobl o bob cefndir. Edrychwn ymlaen at gwrdd â nhw, rhedeg gyda nhw, a’u cefnogi dros y tair blynedd nesaf ac ymhell i’r dyfodol.

Ymunwch â #TeamCRW heddiw a helpwch i newid y dyfodol i gleifion canser yng Nghymru.

Gallwch fod yn hollol sicr y byddwn gyda chi bob cam o'r ffordd. Bydd angen i bob un sy’n cymryd rhan ymrwymo i godi isafswm o £120 mewn nawdd ar gyfer y digwyddiad hwn.

Yn fuan ar ôl cofrestru, byddwch yn cael cyswllt penodol yma yn Ymchwil Canser Cymru a fydd yn eich cefnogi ar bob cam o’r daith gyffrous hon.


Bydd mynediad i’r ras hefyd yn cynnwys:

  • Pecyn codi arian pwrpasol
  • Diweddariadau rheolaidd am y digwyddiad
    Cefnogaeth gan ein Grŵp Facebook, clwb Rhedeg #TîmYCC
  • Gwybodaeth am Ymchwil Canser Cymru a’n prosiectau ymchwil diweddaraf
  • Crys-t rhedeg yn cynnwys brand Ymchwil Canser Cymru (pan fydd 50% o’r targed codi arian wedi’i gyflawni)

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn gydag Ymchwil Canser Cymru, rydych chi’n cytuno i Delerau ac Amodau’r Cyfranogwr, ac yn cytuno i rannu eich data gyda threfnwyr y digwyddiad a phartneriaid.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi