Ysgrifennu Ewyllus a Gadael Rhodd
Yn aml, byddwn yn esgeuluso gwneud ein Hewyllys, neu ei diweddaru, ond mae’n un o’r dogfennau pwysicaf y byddwch yn ei llunio fyth. Ewyllys yw’r unig ffordd o sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu cyflawni ac nid yn unig y bydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi, bydd yn gwneud pethau’n haws i’ch anwyliaid, hefyd.
Mae gwneud Ewyllys yn syml ac nid oes angen iddo fod yn ddrud. Rydym ni bob amser yn argymell eich bod yn cael cyngor proffesiynol fel y gallwch sicrhau bod eich Ewyllys wedi’i hysgrifennu'n briodol a’i bod yn bodloni eich gofynion.
Efallai eich bod eisoes yn defnyddio cyfreithiwr ond, os na, gallech ofyn i rywun rydych chi’n ei adnabod i argymell cyfreithiwr, neu ddod o hyd i gyfreithiwr yn eich ardal leol ar wefan Cymdeithas y Gyfraith. Fel arall, gallwch wneud eich Ewyllys trwy un o’n gwasanaethau ysgrifennu Ewyllys am ddim.
I gynnwys Ymchwil Canser Cymru yn eich Ewyllys, bydd angen enw llawn ein helusen, ein cyfeiriad a’n rhif elusen gofrestredig arnoch chi:
Cancer Research Wales
22 Neptune Court
Vanguard Way
Cardiff
CF24 5PJ
Rhif Elusen Cofrestredig: 1167290
Os byddwch chi’n penderfynu gadael rhodd yn eich Ewyllys i Ymchwil Canser Cymru, ystyriwch roi gwybod i ni oherwydd byddem yn falch iawn o ddiolch i chi. Fodd bynnag, rydym yn parchu eich preifatrwydd ac yn deall os byddai’n well gennych gadw hyn i chi’ch hun. Darllenwch fwy am ein haddewid i chi pan fyddwch yn gadael cymynrodd i Ymchwil Canser Cymru.