Symud at y prif gynnwys

Ein Addewid i Chi

Rydym ni’n deall bod gadael rhodd yn eich Ewyllys yn benderfyniad personol a phwysig. Dyma ein haddewid i chi:

Any questions?

We're happy to help

Get in touch
  • Rydym yn gwybod mai’r bobl sy’n bwysig i chi sy’n dod gyntaf a byddwn yn eich trin chi a’ch anwyliaid gyda pharch a sensitifrwydd
  • Rydym ni’n deall bod hwn yn benderfyniad pwysig, felly ni fyddwn yn eich rhoi chi o dan unrhyw bwysau
  • Os hoffech chi ddweud wrthym am eich rhodd, byddem wrth ein bodd yn gallu diolch i chi, ond does dim rhaid i chi wneud hynny
  • Rydym ni’n deall y gallech chi newid eich meddwl, neu y gallai eich amgylchiadau newid – byddwn yn parchu eich penderfyniad os penderfynwch chi newid eich Ewyllys
  • Byddwn yn defnyddio’ch rhodd yn ofalus ac yn ddoeth fel y caiff yr effaith fwyaf ar bobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser yng Nghymru
  • Gallwch ddod i weld ein hymchwil yn uniongyrchol – cysylltwch â ni
  • Byddwn yn dal unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei dweud wrthym am rodd bosibl yn ddiogel
  • Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych yn gyflym ac yn onest, a byddwn yn hapus i siarad â chi am yr effaith y gallai eich rhodd ei chael
  • Byddwn yn cydymffurfio â’n haddewid i gefnogwyr