Gwybodaeth i Ysgutorion a Chyfreithwyr
Os ydych chi’n gweinyddu Ewyllys sy’n cynnwys rhodd i Ymchwil Canser Cymru, gallai’r wybodaeth isod fod yn ddefnyddiol i chi. Rydym yn hynod ddiolchgar am roddion sy’n cael eu gadael mewn Ewyllysiau gan ein cefnogwyr caredig. Cysylltwch â ni pan fyddwch chi’n barod.
Gan fod Ymchwil Canser Cymru yn elusen gofrestredig, mae cymynroddion wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant a gallent fod wedi’u heithrio rhag Treth Enillion Cyfalaf, hefyd. Mae’r eithriadau hyn yn berthnasol i gymynroddion a gweinyddu ystadau. Fodd bynnag, gall fod yn gymhleth cyfrifo’r eithriadau hyn a gall fod angen cyngor arbenigol arnoch chi.
Cewch wybodaeth ar wefan y llywodraeth, hefyd.
Talu cymynrodd
Cysylltwch â:
Owen.Phipps@cancerresearchwales.org.uk
029 2185 0239
Cancer Research Wales
22 Neptune Court
Vanguard Way
Cardiff
CF24 5PJ
Os yw’n bosibl, darparwch y manylion canlynol:
- Enw llawn a theitl yr ymadawedig
- Eu cyfeiriad diwethaf
- Dyddiad y farwolaeth
- Enw a manylion cyswllt yr ysgutor
- Copi o’r Ewyllys
- Unrhyw wybodaeth ynghylch pam maen nhw wedi gadael rhodd yn eu Hewyllys
Ni fydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at unrhyw restri postio o ganlyniad i gysylltu â ni am gymynrodd.
Anfonwch siec ynghyd â nodyn o’r manylion uchod, os na chawsant eu darparu yn barod. Os hoffech wneud taliad ryw ffordd arall, rhowch wybod i ni a gallwn roi ein manylion banc i chi.
Os ydych chi’n gyfreithiwr ac mae gennych gleient sy’n dymuno gadael rhodd yn eu Hewyllys i Ymchwil Canser Cymru, dyma’n manylion:
Cancer Research Wales
22 Neptune Court
Vanguard Way
Cardiff
CF24 5PJ
Rhif Elusen Cofrestredig: 1167290