Sut Bydd Eich Rhodd yn Helpu
Heb roddion mewn Ewyllysiau, ni fyddai Ymchwil Canser Cymru yn gallu ariannu’r ymchwil sy’n digwydd ar draws y wlad i uno Cymru yn erbyn canser. Ni fyddem yn gallu gwneud darganfyddiadau newydd na chreu triniaethau gwell. Ac ni fyddem yn gallu newid bywydau.
Dyna pam rydym ni mor ddiolchgar am bob rhodd a gawn gan ein cefnogwyr caredig, pobl fel chi. Mae haelioni yn DNA ein cefnogwyr, fel y mae ymchwil yn ein DNA ni.
Bydd unrhyw rodd, dim ots faint, yn helpu i ariannu ymchwil yfory a chreu dyfodol gwell i bob un sydd â phob canser, a’u hanwyliaid, ledled Cymru.
Diolch i’r cefnogwyr meddylgar sydd wedi gadael gwaddol yn y gorffennol, rydym ni wedi gallu ariannu dros £30m o ymchwil eithriadol yma ar garreg y drws; gan wella’r ffyrdd o wneud diagnosis o ganser, arwain at ddeilliannau gwell ar gyfer pob canser a newid bywyd pobl sy’n byw gyda’r clefyd.
I newid canser, mewn ymchwil y mae’r ateb. Pan fyddwch chi’n gadael rhodd i ni yn eich Ewyllys, gallwch fod yn ffyddiog y bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth go iawn yma yng Nghymru, i bobl Cymru. Gyda’n gilydd, gallwn newid ystyr diagnosis canser a chreu dyfodol gwell i’r genhedlaeth nesaf.
Yr Athro Alan Parker
Prifysgol Caerdydd
“Mae’n golygu cymaint i fi a’m tîm fod pobl yn ddigon caredig i adael rhodd yn eu Hewyllys i Ymchwil Canser Cymru. Bydd rhoddion fel y rhain yn gwneud gwahaniaeth enfawr wrth helpu mwy o bobl i oroesi canser.”