Cwestiynau Cyffredin
Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am adael rhodd mewn Ewyllys. Fodd bynnag, os oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei wybod, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 029 2185 5050. Byddem yn hapus i helpu.
A oes gwir angen Ewyllys arna’ i?
Nid yw’n ofyniad cyfreithiol, ond Ewyllys yw’r unig ffordd y gallwch chi wneud yn siŵr bod eich dymuniadau’n cael eu gwireddu ar eich ôl. Gall marw heb Ewyllys achosi problemau i’r rhai sy’n cael eu gadael ar ôl, ar adeg sydd eisoes yn anodd. Gall gwneud Ewyllys roi tawelwch meddwl i chi a gwneud pethau’n haws i’ch anwyliaid, hefyd.
A oes angen i fi fod yn gyfoethog i adael rhodd yn fy Ewyllys?
Nac oes, bydd pob rhodd, dim ots pa faint, yn gwneud gwahaniaeth. O 1% o’ch ystâd i 100%, £500 i £50,000, bydd eich rhodd yn helpu i ariannu ymchwil yfory a chreu dyfodol gwell i bob unigolyn â phob canser ledled Cymru.
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnaf i adael rhodd yn fy Ewyllys i Ymchwil Canser Cymru?
I wneud yn siŵr ein bod yn cael eich rhodd bwriadedig yn y dyfodol, cynhwyswch enw llawn ein helusen, ein cyfeiriad a’n rhif elusen gofrestredig:
Cancer Research Wales
22 Neptune Court
Vanguard Way
Cardiff
CF24 5PJ
Rhif Elusen Gofrestredig: 1167290
Beth yw’r gwahanol fathau o roddion y gallaf i eu gadael?
- Rhodd weddilliol – bydd hyn yn cynnwys faint bynnag sy’n weddill ar ôl talu’r holl dreuliau a phob rhodd arall. Gallwch roi’r cyfan o’r gweddill i berson neu elusen fel Ymchwil Canser Cymru, neu ganran ohono. Nid yw chwyddiant yn effeithio ar y math hwn o rodd, felly bydd yn dal ei werth yn well na rhodd arian parod.
- Rhodd ariannol – swm penodol o arian yw hwn. Os hoffech i’ch rhodd arian gynnal ei gwerth gydag amser, gallwch ofyn i’ch cyfreithiwr ei fynegrifo.
- Rhodd benodol – gallai hon fod yn eitem benodol o werth, fel celf, eiddo, cyfranddaliadau neu emwaith. Pan fydd rhodd benodol yn cael ei gadael i ni, gwneir hyn yn gyffredinol gyda’r bwriad y gellir ei werthu, gyda’r elw’n cael ei ddefnyddio i gefnogi ein hymchwil.
Rydym ni’n argymell eich bod yn defnyddio cyfreithiwr cymwysedig i ysgrifennu neu ddiweddaru eich Ewyllys, ac i wneud yn siŵr ei bod yn cael ei geirio’n gywir.
A oes unrhyw fuddion treth o ganlyniad i adael rhodd yn fy Ewyllys?
Fel elusen, mae unrhyw rodd rydych chi’n ei gadael i ni yn eich Ewyllys wedi’i heithrio rhag Treth Etifeddiant. Bydd gwerth eich rhodd yn cael ei ddidynnu o’ch ystâd cyn ychwanegu Treth Etifeddiant. Gall rheolau Treth Etifeddiant newid, felly mae bob amser yn ddoeth siarad â chynghorydd proffesiynol neu gallwch ymweld â gwefan y llywodraeth am fwy o wybodaeth.
A ydych chi angen i mi ddweud wrthych fy mod wedi gadael rhodd i chi yn fy Ewyllys?
Nid oes angen i chi ddweud wrthym, ond os ydych chi’n hapus i rannu eich bwriad, byddem wrth ein bodd yn gallu diolch i chi.
Beth os ydw i eisoes wedi ysgrifennu fy Ewyllys?
Os ydych chi eisiau gwneud newid bach i Ewyllys presennol, gallwch wneud hyn gyda chodisil, fel arfer. Dogfen gyfreithiol yw hon sy’n ychwanegiad at yr Ewyllys gwreiddiol a bydd angen ei storio gyda’ch Ewyllys. Dylech chi ddefnyddio cyfreithiwr i wneud hyn i sicrhau ei bod yn rhwymo’n gyfreithiol. Os bydd angen i chi wneud llawer o newidiadau, neu newid mawr, gallai ysgrifennu Ewyllys newydd fod yn well. Rydym ni’n argymell eich bod yn holi cyfreithiwr neu gynghorydd proffesiynol. Fel arall, gallech ddefnyddio ein gwasanaethau ysgrifennu Ewyllys rhad ac am ddim i greu Ewyllys newydd.
Rydw i’n ysgutor, at bwy ddylwn i anfon taliad y gymynrodd?
Dylid anfon pob gohebiaeth at ein Swyddog Cymynroddion: Owen Phipps, Ymchwil Canser Cymru, 22 Neptune Court, Vanguard Way, Caerdydd CF24 5PJ, a fydd yn ateb yr ohebiaeth ac yn cydnabod y taliad. Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Cancer Research Wales. Darllenwch fwy o wybodaeth i ysgutorion.